Cais Gareth Anscombe 'yn ddilys' medd World Rugby

  • Cyhoeddwyd
Cais AnscombeFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y dyfarnwr teledu ar y pryd nad oedd y cais hwn i Gareth Anscombe yn ddilys

Mae corff llywodraethu rygbi'r byd, World Rugby, wedi cydnabod bod y dyfarnwr teledu wedi gwneud camgymeriad wrth ddyfarnu ar gais cyntaf Cymru yn eu gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn diwethaf.

Fe benderfynodd y dyfarnwr teledu yn Twickenham bod llaw asgellwr Lloegr, Anthony Watson, wedi cyffwrdd y bêl cyn un Gareth Anscombe, ac fe gafodd y cais ei wrthod.

Colli wnaeth Cymru yn y pen draw o 12-6 i Loegr yn yr ail gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Wedi'r golled, dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, fod penderfyniad y dyfarnwr teledu, Glenn Newman, yn "gamgymeriad ofnadwy".

Dywedodd llefarydd ar ran World Rugby: "Rydym wedi egluro i reolwyr tîm Cymru, fel rhan o'r broses adolygu arferol gyda'r timau, bod y dyfarnwr fideo wedi gwneud camgymeriad wrth weithredu'r ddeddf yn ystod y gêm rhwng Lloegr a Chymru yn Twickenham

"Yn ôl deddf 21.1b fe ddylai Cymru fod wedi cael cais gan mai chwaraewr o Gymru a diriodd y bêl."

Cadarnhau camgymeriad

Wrth siarad â'r wasg fore Mawrth, dywedodd rheolwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley, bod Alain Rolland o World Rugby wedi cadarnhau bod camgymeriad wedi ei wneud.

"Roedd hi'n dda cael trafodaeth gyda World Rugby dros y penwythnos", meddai Howley.

"Fe gadarnhaon nhw bod y dyfarnwr teledu wedi gwneud camgymeriad."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Warren Gatland yn feirniadol iawn o'r dyfarnwr teledu wedi'r golled yn erbyn Lloegr

"Mae e wedi digwydd. Mae'n siomedig bod hyn yn digwydd mewn chwaraeon proffesiynol, ond nawr mae'n rhaid canolbwyntio ar y pythefnos nesaf a pharatoi ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn Iwerddon.

"Roedd 'na ddigon o amser ar y cae wedi'r penderfyniad hwnnw. Roedd gyda ni rai cyfleoedd eraill y dylen ni fod wedi manteisio arnyn nhw."

Bydd gêm nesaf Cymru yn erbyn Iwerddon, yn Nulyn, ar 24 Chwefror.