Llandeilo a Chwm Cynon ymysg cynlluniau'n derbyn £5.4m

  • Cyhoeddwyd
Canolfan LlandeiloFfynhonnell y llun, Menter Bro Dinefwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ganolfan Treftadaeth yn Llandeilo yn un o'r cynlluniau yng Nghymru fydd yn derbyn grant

Mae pump o grwpiau cymunedol ar draws Cymru wedi ennill dros £1m yr un i wireddu cynlluniau i weddnewid hên adeiladau a thir diffaith yn ganolfannau cymunedol.

Bydd Pafiliwn Bowlio y Grange yng Nghaerdydd, Canolfan Gymunedol St Mair yng Nghwm Cynon, Siop Peiriant Gwaith Dur Brymbo, Neuadd Tref Llandeilo a 130 acer o dir yn y Drenewydd yn cael bywyd newydd, yn ôl trefnwyr y cynllun.

Yn ôl Cronfa'r Loteri Fawr, pwrpas y cynllun ariannu yw trosglwyddo asedau cymunedol i "drawsnewid mannau segur yn ganolfannau cymunedol".

Ffynhonnell y llun, Commission Air
Disgrifiad o’r llun,

Ers i'r gwaith ddod i ben ar safle dur Brymbo ger Wrecsam, mae'r adeiladau wedi adfeilio

'Newyddion arbennig'

Ffynhonnell y llun, Menter Bro Dinefwr
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Tref Llandeilo sy'n berchen ar yr adeilad ar hyn o bryd.

Menter Bro Dinefwr sydd y tu cefn i'r cynllun i newid Neuadd Tref Llandeilo yn ganolfan gymunedol.

Bydd yr adeilad, sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Gyngor Tref Llandeilo, yn cael ei drosglwyddo ar lês 99 mlynedd i ofal y fenter, sydd wedi ennill grant o £1.1m ar gyfer y gwaith.

"Ein bwriad ydy troi'r adeilad yn ganolfan treftadaeth a gwybodaeth i ymwelwyr", meddai Owain Gruffydd, prif weithredwr y fenter.

"Bydd rhannau o'r adeilad yn cael eu troi'n ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd, bydd gwagle yn cael ei greu i fusnesau eu llogi a bydd adnoddau Cymraeg yno hefyd, ac mi fydd yn agored i bawb."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Owain Gruffydd o Fenter Bro Dinefwr, bydd pobl Llandeilo a'r ardal ehangach yn elwa o'r ganolfan newydd

Ffynhonnell y llun, Menter Bro Dinefwr

Ychwanegodd bod y cynllun yma wedi bod ar waith ers blwyddyn a hanner: "Ry' ni fel rhan o'r broses wedi gorfod creu cynllun busnes manwl ar gyfer y saith mlynedd nesaf er mwyn profi bod modd i'r ganolfan fod yn hunangynhaliol.

"Mae hwn yn newyddion arbennig, nid yn unig i Fenter Bro Dinefwr ond hefyd i dref Llandeilo a'r ardal ehangach."

Mae'r bartneriaeth yn gobeithio y bydd y gwaith yn dechrau yn ystod misoedd yr haf, gyda'r bwriad o agor y ganolfan ar ei newydd wedd yn ystod gwanwyn 2019.

"Ry' ni fel menter mor ddiolchgar am y cydweithredu rhwng y cyngor tref a'r Gronfa Loteri Fawr, ac ry' ni mor falch eu bod nhw'n rhannu'r un weledigaeth â ni."

'Cymunedau mwy cynaliadwy'

Dywedodd Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose: "Mae'r rhaglen CAT2 yn anelu at greu cymunedau mwy cynaliadwy; gan gefnogi trosglwyddo asedau i fudiadau mentrus sy'n cynnwys y cymunedau maent yn eu gwasanaethu'n weithredol a darparu buddion iddynt.

"Mae'n ymwneud â gwella gwasanaethau a chyfleusterau cynaliadwy ar gyfer cymunedau yng Nghymru."

Yn ôl y Gronfa Loteri Fawr, maen nhw wedi derbyn 3,619 o geisiadau grant rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2017.

O'r rhain roedd 2,202 yn llwyddiannus ac fe dderbynion nhw gymorth gwerth £94.9m.