Cynyddu dedfryd Jordan Davidson am lofruddiaeth Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi cynyddu'r lleiafswm o flynyddoedd y dylai dyn 26 oed o Wrecsam dreulio yn y carchar am lofruddiaeth ym mis Mawrth y llynedd.
Roedd Jordan Davidson wedi pledio'n euog i lofruddiaeth Nicholas Churton, 67, yn ei gartref yn y dref.
Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda lleiafswm o 23 mlynedd dan glo.
Roedd y Cyfreithiwr Cyffredinol, Robert Buckland QC o'r farn nad oedd y ddedfryd yn ddigonol, ac fe ofynnodd i'r Llys Apêl edrych ar yr achos.
Nawr mae barnwyr wedi penderfynu fod yn rhaid iddo dreulio o leiaf 30 mlynedd yn y carchar.
Cafwyd hyd i gorff Mr Churton fore Llun 27 Mawrth ar ôl i'r heddlu gael eu galw i'w fflat yng Nghlôs Cilgant, Wrecsam.
Roedd ei anafiadau'n gyson â rhai oedd wedi cael eu hachosi gan machete a morthwyl.
Roedd Mr Churton yn adnabyddus fel dyn busnes yn ardaloedd Wrecsam a Chaer, ond ar ôl gwerthu'i fusnesau roedd ei iechyd wedi gwaethygu.
Dywedodd ei deulu ar y pryd eu bod wedi poeni ei fod yn darged hawdd am ei fod o mor fregus.
Cafwyd Davidson yn euog o 14 o droseddau, gan gynnwys llofruddiaeth, byrgleriaeth a lladrad, a cafodd ei ddedfrydu i 23 mlynedd a 4 mis yn y carchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
'Unigolyn treisgar'
Ar ôl edrych ar yr achos eto, fe benderfynodd y Llys Apêl gynyddu lleiafswm ei ddedfryd i 30 mlynedd.
Yn siarad ar ôl y gwrandawiad, dywedodd y cyfreithiwr cyffredinol: "Mae Davidson yn unigolyn hynod dreisgar ac roedd ei droseddau yn haeddu cosb fwy llym.
"Arweiniodd ei weithredoedd i farwolaeth drychinebus dyn bregus a gafodd effaith ar fywydau nifer o bobl.
"Rwy'n falch bod y llys wedi penderfynu cynyddu ei gyfnod y carchar."