Pro14: Gweilch 26-12 Southern Kings

  • Cyhoeddwyd
Gweilch yn erbyn Southern KingsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Southern Kings wedi ildio pwynt bonws ym mhob un o'u gemau Pro14

Fe wnaeth y Gweilch sicrhau pwynt bonws yn y fuddugoliaeth dros Southern Kings wrth i'r newydd ddyfodiaid i'r Pro14 ymweld â Stadiwm Liberty am y tro cyntaf.

Ond am ran helaeth o'r gêm, roedd 'na bosibilrwydd bod y tîm o Dde Affrica am greu sioc ac ennill eu gêm gyntaf erioed yn y bencampwriaeth.

A bu'n rhaid i'r tîm cartref frwydro i gael y pwynt bonws a ddaeth yn sgil cais Jeff Hassler gyda chydig dros funud yn weddill.

Mae'r fuddugoliaeth yn hwb i obeithion y Gweilch o sicrhau lle yng Ngwpan y Pencampwyr y tymor nesaf, ar ôl cau'r bwlch rhyngddyn nhw a Connacht.

Wedi 10 munud cyntaf o chwarae penigamp, fe sgoriodd y capten Tom Habberfield gais ac wedi trosiad Sam Davies roedd y Gweilch 7-0 ar y blaen wedi 13 munud.

O fewn ychydig funudau roedd y tîm cartref wedi ildio cic gosb ond fe fethodd Masixole Banda ag anelu'r bêl rhwng y pyst.

Ond erbyn hanner ffordd trwy'r hanner cyntaf roedd yr ymwelwyr yn gyfartal wedi cais yr asgellwr Makase Michael a throsiad Martin Du Toit.

Ac yna fe aethon nhw 7-12 ar y blaen ar ôl i'r capten Mikey Willemse dirio.

Roedd munudau olaf yr hanner cyntaf yn rhai rhwystredig i'r Gweilch wrth iddyn nhw fethu ag ychwanegu unrhyw bwyntiau er mai nhw oedd yn rheoli'r meddiant.

A dyna'r patrwm wedi'r egwyl, gyda'r Gweilch yn pwyso, a'r ymwelwyr yn amddiffyn yn hyderus.

Ond gyda'r Southern Kings i lawr i 13 dyn ar un cyfnod, fe darodd y Gweilch yn ôl.

Fe ildiodd yr ymwelwyr gic gosb o'r sgrym a chais cosb, ac wedi 72 munud roedd y Gweilch yn ôl ar y blaen o 14 i 12.

Fe wnaeth y fantais ymestyn i 21-12 wedi ail gais cosb, ac wedi 78 munud fe sgoriodd Hassler ail gais i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.

Mae'r Gweilch yn parhau yn chweched safle Adran A gyda 26 o bwyntiau - dau bwynt yn llai na Connacht.