Cronfa amaeth am 'gefnogi'r cefnog' medd Paul Flynn
- Cyhoeddwyd
Mae AS Cymreig, sy'n aelod o bwyllgor amgylchedd San Steffan, yn gwrthwynebu un o'r argymhellion sydd wedi ei gynnwys yn adroddiad newydd y pwyllgor.
Roedd yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi ddydd Sul, yn edrych ar sut fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar y fasnach fwyd.
Ond mae'r AS Llafur Paul Flynn yn gwrthwynebu'r argymhelliad i greu cronfa arbennig i baratoi'r byd amaeth ym Mhrydain ar gyfer Brexit.
Dywedodd Mr Flynn fod yna beryg y bydd ffermwyr cyfoethog yn elwa.
Mae cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan yn dweud y dylai'r llywodraeth ystyried sefydlu cronfa er mwyn galluogi bod ffermwyr yn gallu "addasu i'r newidiadau masnachu yn dilyn Brexit".
Mae ffermwyr yn barod wedi cael gwybod y byddan nhw yn cael cymorthdaliadau ar yr un lefel a'r hyn sydd yn cael eu rhoi iddyn nhw gan Ewrop tan etholiad 2022. Byddai'r gronfa arbennig yn ychwanegol i hynny.
Cefnogi'r 'hynod gefnog'
Wrth siarad gyda rhaglen BBC Radio Wales, Sunday Supplement dywedodd Mr Flynn ei fod yn gwrthwynebu'r syniad.
"Yr unig ddiwydiant sydd wedi cael sicrwydd y byddant yn cael nawdd ar gyfer y dyfodol agos yw ffermio.
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n gwastraffu miliynau trwy roi grantiau i ffermwyr sy'n gyfoethog.
"Mae hyn yn incwm i gefnogi'r rhai hynod gefnog mewn nifer o achosion."
"Yn Lloegr, lle mae'r gefnogaeth fwyaf, mae un ymhob pum' punt yn cael ei rhoi fel nawdd i filiwnyddion neu biliwnyddion."
Mae adroddiad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig San Steffan yn galw am gronfa i gael ei sefydlu i gefnogi'r sector amaethyddol ym Mhrydain wrth addasu ar ôl Brexit.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Neil Parish, bod y sector yn ddibynnol ar fewnforio ac allforio o'r UE a bod hi'n "holl bwysig" bod y llywodraeth yn datgan yn glir eu gweledigaeth i ddiogelu bywoliaeth ffermwyr Prydain.
"Bydd angen i amaethyddiaeth y DU addasu i'r newidiadau masnachu yn dilyn Brexit felly dylai'r llywodraeth ystyried rhoi cronfa yn ei le i alluogi ffermwyr i wneud hyn.
"Mae'n hanfodol bod y llywodraeth yn ei gweld hi yn fater o flaenoriaeth eu bod yn cymryd camau positif tuag at ddatblygu perthnasau masnachu newydd."
Brexit yn cynnig cyfle
"Ni ddylem ni o dan unrhyw amgylchiadau gyfaddawdu ein llesiant anifeiliaid sy'n cael ei gydnabod ar draws y byd, yr amgylchedd, a safonau bwyd.
"Dylai Brexit fod yn gyfle i wella, yn hytrach na thanseilio'r enw da sydd gennym yn rhyngwladol o ran ein hansawdd."
Mae Undeb yr NFU ar lefel Prydeinig wedi adleisio'r hyn wnaeth yr adroddiad ganfod.
Dywedodd eu prif ymgynghorydd ar faterion yr UE wrth i Brydain baratoi i adael yr undeb, Gail Soutar, y byddai yna "effaith sylweddol ar ffermwyr Prydain a'r cyflenwad fwyd yn ôl adref" os nad oes yna gytundeb rhwng y DU a'r UE.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd17 Mai 2017
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2017