Cannoedd yn gorymdeithio i gefnogi Ifan Owens a'i deulu

  • Cyhoeddwyd
Aber dros Ifan

Bu cannoedd o bobl yn gorymdeithio o Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth i ganol y dre brynhawn Sul er mwyn cefnogi Ifan Owens a'i deulu.

Ym mis Ionawr cafodd Ifan Richards Owens, sy'n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn, anafiadau difrifol wedi ymosodiad ar Y Stryd Uchel yn y dre.

Wythnos yn ôl dywedodd ei dad Gareth Owens, mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ei fod wedi deffro o goma a'i fod yn ymateb i gyfarwyddiadau syml.

Ffynhonnell y llun, Gareth Owens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifan Owens yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Wedi cyrraedd y Bandstand ar y prom bu llywydd UMCA - Gwion Llwyd Williams, Dr Rhodri Llwyd Morgan - dirprwy is-ganghellor y Brifysgol a'r Aelod Seneddol lleol, Ben Lake, yn annerch y dorf.

'Digwyddiadau prin'

Prif neges y siaradwyr oedd estyn cefnogaeth i Ifan a'i deulu a dweud bod Aberystwyth yn dre diogel i fyw ynddi.

Dywedodd Gwion Llwyd Williams: "Roedden ni'n teimlo bod angen i ni ddangos faint o gefnogaeth sydd gan Ifan a'r teulu gan y corff o fyfyrwyr ond hefyd gan bobl y dref, ac i ddweud na ddylai pethau fel hyn ddigwydd."

Neges o gefnogaeth hefyd a oedd gan Dr Rhodri Llwyd Morgan: "Ry'n ni'n gwybod o glywed am ystadegau o brifysgolion bod digwyddiadau fel hyn (yr ymosodiad ar Ifan Owens) yn gallu digwydd o bryd i'w gilydd.

"Ond maen nhw'n brin eithriadol yn Aberystwyth. Felly mae wedi bod yn dipyn o syndod, yn dipyn o fraw, ond y'n ni'n gallu dod at ein gilydd fel heddi - pobl y dref a'r gymuned - er mwyn cyfleu ein cefnogaeth fel un teulu."

Dywedodd Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake: "Ry'n ni'n gymuned glos iawn yma - ac roedd yn bwysig i ni gyfleu nid yn unig ein cefnogaeth i Ifan a'i deulu ar adeg hynod o galed iddyn nhw, ond hefyd gwneud yn glir mai nid digwyddiadau fel y rhai o rai wythnosau yn ôl sy'n arfer digwydd yma yng Ngheredigion."

Disgrifiad o’r llun,

Y gorymdeithwyr yn gadael Neuadd Pantycelyn

Roedd tad Ifan, Gareth Owens, ac aelodau eraill o'i deulu yn bresennol yn y digwyddiad a gafodd ei drefnu gan Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Roedd y gorymdeithwyr hefyd am ddangos fod Aberystwyth fel tref yn cefnogi Ifan a'i deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod Aberystwyth yn lle diogel i fyw.

Camerâu newydd ar eu ffordd

Hefyd yn rhan o'r daith roedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys. Dywedodd: "Dw i wedi cael cyfle i siarad gyda theulu Ifan Owens heddi ac maen nhw'n dweud bod ymateb yr heddlu i'r digwyddiad yma wedi bod yn gadarnhaol iawn."

Does gan Aberystwyth ddim system camerau cylch cyfyng ar hyn o bryd.

Dyw'r system ddim wedi gweithio ers iddi gael ei diffodd yn 2014 fel mesur arbed arian.

Dywedodd Mr Llywelyn bod system newydd o gamerâu ar ei ffordd i Aberystwyth.

"Mae'n anodd iawn rhoi dyddiad pendant," meddai, "pryd bydd y system yn cyrraedd Aberystwyth ond fe fydd y camerâu yn dod i Aberystwyth."

Apêl yr heddlu

Ddydd Llun diwethaf fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys apelio eto am unrhyw dystion i'r ymosodiad ar Ifan Owens, a ddigwyddodd rhwng 01:30 a 02:30 ddydd Sul 14 Ionawr.

Cafodd pump o ddynion eu harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad, gyda dau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth a thri arall yn parhau dan ymchwiliad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad â dau berson gafodd eu gweld yn cerdded ar hyd ffordd Tan y Cae am 02:30, yn ogystal â'r person wnaeth roi gofal cymorth cyntaf i Ifan Owens cyn i'r parafeddygon gyrraedd.