Ymosodiad Aberystwyth: Myfyriwr yn deffro o goma

  • Cyhoeddwyd
Ifan OwensFfynhonnell y llun, Gareth Owens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifan Owens yn fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Fis ers yr ymosodiad ar fyfyriwr 19 oed yn Aberystwyth, mae ei deulu wedi dweud wrth Cymru Fyw ei fod wedi deffro o goma ac mae'n ateb i gyfarwyddiadau syml.

Roedd Ifan Richards Owens, 19 oed, wedi bod mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ers yr ymosodiad yn ystod oriau mân ddydd Sul 14 Ionawr.

Cafodd anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn ymosodiad ar Stryd Uchel yn Aberystwyth.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul dywedodd ei dad Gareth Owens ar ran y teulu: "Newyddion annisgwyl arbennig!

"Mae piben aer Ifs wedi ei dynnu ac yn anadlu heb gymorth. Hefyd mae e'n tynnu tafod 'on command'.

"Drwy ystumiau gwyneb a 'grunt' nath e ddewis wrando ar raglen Tudur Owen ar iPlayer dros radio 2 neithiwr."

Mae Ifan Owens bellach wedi gadael yr uned gofal dwys yn yr ysbyty, ac wedi cael ei symud i ward niwrolegol gofal uwch.

Dywedodd teulu Ifan Owens fod y newyddion yn deyrnged enfawr i'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol - yn enwedig i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

"Mae o wedi deffro o goma a dechrau ymateb i gyfarwyddiadau syml."

"Hoffai'r teulu hefyd ddiolch am yr holl gefnogaeth a roddwyd iddynt gan rwydwaith cenedlaethol o deulu a ffrindiau, gyda diolch arbennig i gymdeithasau myfyrwyr UMCA a'r Geltaidd a Phrifysgol Aberystwyth.

"Mae'r teulu yn hynod ddiolchgar am yr orymdaith Aber Dros Ifan, sy'n cychwyn ym Mhantycelyn ddydd Sul nesaf, 18 Chwefror am 15:00."

Ddydd Llun fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys apelio eto am unrhyw dystion i'r ymosodiad ar Ifan Owens, a ddigwyddodd rhwng 01:30 a 02:30 ddydd Sul 14 Ionawr.

Cafodd pump o ddynion eu harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad, gyda dau wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth a thri arall yn parhau dan ymchwiliad.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad â dau berson gafodd eu gweld yn cerdded ar hyd ffordd Tan y Cae am 02:30, yn ogystal â'r person wnaeth roi gofal cymorth cyntaf i Ifan Owens cyn i'r parafeddygon gyrraedd.