Cerddwr yn marw wedi iddo gwympo yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr wedi marw wedi iddo gwympo dros 800 troedfedd i lawr dibyn serth yn Eryri.
Credir i'r dyn lithro yn y rhew a'r eira cyn disgyn oddi ar Clogwyn Coch.
Cafodd gwirfoddolwyr o Dîm Achub Mynydd Llanberis a hofrennydd eu galw ddydd Sadwrn am 12:35.
Dywedodd llefarydd ar ran y tîm bod Llwybr Llanberis, sy'n boblogaidd gan gerddwyr yn yr haf, yn llecyn serth lle mae llawer o eira.
Maent yn rhybuddio cerddwyr i gario offer megis cramponau a bwyelli rhew os yn dringo i fannau uchel.