Chwe Gwlad: Pedwar yn holliach i Gymru i herio Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Taulupe FaletauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Taulupe Faletau heb chwarae ers 9 Tachwedd oherwydd anaf i'w ben-glin

Fe fydd pedwar o brif chwaraewyr Cymru yn ffit i wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn wedi iddyn nhw wella o anafiadau.

Dywedodd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, fod y chwaraewyr rheng ôl Ross Moriarty a Taulupe Faletau yn holliach ar gyfer yr ornest yn y Chwe Gwlad.

Bydd y cefnwr Leigh Halfpenny a'r maswr Dan Biggar hefyd ar gael ar gyfer y gêm, wedi anafiadau troed ac ysgwydd.

Fe fydd tîm Cymru i herio'r Gwyddelod yn cael ei enwi ddydd Mawrth, gyda Liam Williams hefyd yn gobeithio dychwelyd ar ôl profi'i ffitrwydd wrth chwarae dros Saracens.

Mae Cymru'n teithio i Ddulyn yn gobeithio taro nôl ar ôl colli i Loegr yn eu gêm ddiwethaf, a hynny wedi buddugoliaeth yng ngornest agoriadol y bencampwriaeth yn erbyn Yr Alban.