Agor cwest i farwolaeth babi a dynes mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mili Wyn Ginniver ac Anna Williams yn y gwrthdrawiad ger Gellilydan

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth babi a dynes mewn gwrthdrawiad ffordd yng Ngwynedd ym mis Ionawr.

Cafodd Mili Wyn Ginniver, oedd yn chwe mis oed ac o Flaenau Ffestiniog, yn ogystal â'i modryb Anna Williams, 22, o Benrhyndeudraeth eu lladd yn y digwyddiad.

Cafodd gyrrwr y car, Sioned Williams - oedd yn fam i Mili ac yn chwaer i Anna - ei chludo i ysbyty yn Stoke ag anafiadau difrifol, ble mae'n parhau i fod mewn cyflwr sefydlog.

Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner Dewi Pritchard Jones fod y gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 yng Ngellilydan ar 11 Ionawr yn un "brawychus".

Fe wnaeth y gymuned leol gasglu miloedd o bunnau i gefnogi'r teulu wedi'r digwyddiad.