Rhagor o fwytai KFC yn cau oherwydd prinder cywion ieir

  • Cyhoeddwyd
kfc

Mae'r gadwyn o fwytai bwyd cyflym, KFC, wedi gorfod cau rhagor o'u canghennau yng Nghymru oherwydd prinder cywion ieir.

Am 16:00 dydd Mawrth roedd gwefan y cwmni'n dweud mai 19 o'u 40 safle yng Nghymru oedd ar agor.

Dywedodd KFC ddydd Llun mai'r rheswm am y problemau yw newidiadau yn eu system ddosbarthu genedlaethol.

Yr wythnos diwethaf fe newidiodd KFC eu cytundeb dosbarthu i ddefnyddio cwmni DHL.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae gan KFC 900 o fwytai yn y DU, ac mae dros 80% ohonynt yn gweithredu dan drwydded.

Mae problemau wedi eu hadrodd mewn rhannau eraill o'r DU hefyd, gan gynnwys de-ddwyrain, gogledd-ddwyrain a chanolbarth Lloegr, yn ogystal â Llundain.

Hyd nes yr wythnos diwethaf cwmni o Dde Affrica, Bidvest, oedd yn gyfrifol am ddosbarthu cywion ieir i'r bwytai.

Mae KFC wedi ymddiheuro i gwsmeriaid am yr anghyfleustra.