Lluniau: Traethau Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tri o draethau Cymru wedi cyrraedd rhestr 10 uchaf y traethau gorau yn y DU gafod eu dewis gan ddefnyddwyr gwefan deithio TripAdvisor, dolen allanol. Roedd dau o draethau Penrhyn Gŵyr - Rhosili (3) a Thri Clogwyn (8) - ar y rhestr ynghyd â Bae Barafundle yn Sir Benfro (10). Mae'r tri yn yr oriel hon ynghyd ag ambell un arall fyddai'n llwn haeddu bod ymhlith y goreuon.


Mae traeth Bae Barafundle yn Sir Benfro yn un o'r llecynnau gorau am bicnic!

Traeth Mawr, Tŷ Ddewi. Un o draethau syrffio gorau'r wlad

Traeth Llyfn rhwng Porthgain ac Abereiddi - dim ond un ffordd sydd i lawr i'r traeth 'ma, felly byddwch yn wyliadwrus o'r llanw uchel!

Yr Aber Bach (Little Haven) - lleoliad braf yn Sir Benfro i weld machlud haul

Mae traeth braf Rhosili ar Benrhyn Gŵyr yn gyson yn cael ei ddewis fel un o'r goreuon yn y DU

Mae Borth-y-gest ger Porthmadog wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr ers degawdau

Llansteffan, un o drysorau Sir Gâr

Mae gweddillion coedwig i'w gweld pan mae'r llanw'n isel yn Borth ger Aberystwyth

Mae goleudy y Parlwr Du, pwynt mwyaf gogleddol tir mawr Cymru ar draeth Talacre, Sir y Fflint. Ar lanw uchel, mae'n cael ei dorri i ffwrdd oddi wrth y traeth felly peidiwch mynd yn sownd!

Cafodd Bae Dwnrhefn, Southerndown ei ddynodi fel rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn 1972

Wyddoch chi fod Bae'r Tri Chlogwyn yng Ngŵyr wedi ymddangos mewn fideo o un o ganeuon y band enwog, Red Hot Chilli Peppers?