E-byst personol: Canllawiau newydd i weinidogion

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Bydd canllawiau newydd yn cael eu rhoi i weinidogion ynglŷn â defnyddio cyfrifau e-byst personol ar gyfer materion busnes yn ymwneud â Llywodraeth Cymru.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi anfon llythyr at arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ac ynddo mae'n cadarnhau bod dau ysgrifennydd cabinet wedi defnyddio eu cyfeiriad e-bost personol "ar adegau prin ar gyfer materion arferol".

Mae Mr Jones wedi dweud yn y gorffennol ei fod wedi cyfnewid e-byst gyda gweinidogion, ymgynghorwyr a swyddogion trwy ei gyfrif personol.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y gallai yna fod "dystiolaeth dyngedfennol" yng nghyfrif e-bost personol y prif weinidog yn ymwneud â'r ymchwiliadau sydd wedi'u lansio yn sgil marwolaeth Carl Sargeant.

Yn y llythyr at Mr Davies mae Mr Jones yn dweud ei fod "wedi gofyn i bennaeth is-adran y cabinet i ddarparu canllawiau clir i'r cabinet a gweinidogion ynglŷn â chyfrifau e-byst".

"Bydd hyn yn digwydd cyn gynted ag y bo modd," meddai.