ACau Llafur yn datgan cefnogaeth lawn i Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones

Mae Llafur Cymru wedi cefnogi'r Prif Weinidog ar ôl i un o sylwebwyr gwleidyddol mwyaf blaenllaw Cymru ddweud bod awdurdod Carwyn Jones "yn deilchion" yn sgil digwyddiadau wedi marwolaeth Carl Sargeant.

Ar raglen Sunday Politics Wales, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd bod awdurdod y Prif Weinidog wedi "edwino'n sylweddol iawn".

Mae Carwyn Jones yn wynebu dau ymchwiliad yn dilyn marwolaeth y cyn-ysgrifennydd cymunedau.

Ond mae aelodau'r grŵp Llafur yn y Cynulliad yn dweud eu bod yn sefyll yn gadarn gyda'r Prif Weinidog er bod y "misoedd diwethaf wedi bod yn anodd".

Cafwyd hyd i Mr Sargeant yn farw bedwar diwrnod ar ôl i'r Prif Weinidog ei ddiswyddo dros honiadau ynglŷn â'i ymddygiad at fenywod.

Mae un ymchwiliad yn edrych ar ymddygiad Carwyn Jones mewn perthynas â diswyddo Mr Sargeant, a'r llall yn ystyried honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014.

Rhy hwyr?

Mae Mr Jones wedi mynnu yn gyson nad oedd dewis ganddo ond diswyddo Mr Sergeant a bod proses gyfreithiol i'w dilyn.

Ond hyd yn oed os yw'r ymchwiliadau'n cytuno ag asesiad y Prif Weinidog, fe allai fod yn rhy hwyr, medd yr Athro Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ymddangos bod neb yn fodlon mynd o flaen camera i amddiffyn y Prif Weinidog, medd yr Athro Richard Wyn Jones

"Mae ei awdurdod yn amlwg yn deilchion. Dwi ddim yn meddwl bod unrhyw amheuaeth am hynny," dywedodd.

"Petai 'na gasgliad ei fod yn hollol ddi-fai - a does gen i ddim gwybodaeth fewnol o gwbl - fe allai gael ei ganfod yn gwbl dd-fai, ond hyd yn oed yn yr achos yna dwi'n meddwl y byddai'n anodd iawn iddo adfer ei statws blaenorol."

"Dydw i ddim yn dweud bod hynny'n deg. Dydw i ddim yn dweud os mae o'n beth da neu'n beth drwg.

"Dwi ond yn gwneud sylw bod ei awdurdod gwleidyddol wedi edwino, diflannu, llithro trwy'i fysedd.

"A'r pwynt 'efo awdurdod gwleidyddol ydy; unwaith mae o wedi'i golli mae'n anodd eithriadol i'w gael yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Carl Sargeant fis Tachwedd y llynedd

Dywedodd yr Athro Jones mai un o'r pethau mwyaf trawiadol yn yr wythnosau diwethaf yw bod cyn lleied o gydweithwyr y Prif Weinidog yn fodlon i'w gefnogi'n gyhoeddus.

"Does gan Carwyn Jones affliw o neb yn sefyll o flaen camera yn ei amddiffyn. Mae hyd yn oed Theresa May yn llwyddo i gael rhywun i sefyll o flaen camera i'w hamddiffyn."

Mae'n ymddangos, meddai, bod y blaid Lafur wedi symud ymlaen ac yn ystyried dyfodol heb Carwyn Jones wrth y llyw.

"Mewn ffordd, mae bron fel petai Carwyn Jones yn hen newyddion. Un mater yw pryd a sut mae o'n gadael, ond dydy'r blaid ddim i'w gweld wedi dechrau trafod mater yr olynydd."

Ymateb ACau Llafur

Dywedodd AC Aberafan David Rees wrth Sunday Politics Wales ei fod yn cefnogi'r Prif Weinidog yn llwyr, gan bwysleisio bod holl aelodau'r grŵp Llafur yn y Senedd hefyd yn ei gefnogi.

"Dydw i ddim yn derbyn y sylwadau yma," meddai am yr hyn a ddywedodd yr Athro Jones.

"Yr hyn wela' i yw Llywodraeth Lafur Cymru yn dal yn rheoli gyda Carwyn Jones fel arweinydd, gyda chefnogaeth lawn aelodau'r grŵp yn y Cynulliad."

Mae cadeirydd y grŵp, Vikki Howells, hefyd yn gwrthod sylwadau'r Athro Jones.

"Does dim gwadu bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i bawb ond mae'r grŵp yn sefyll yn gadarn gyda'r Prif Weinidog," meddai AC Llafur Cwm Cynon.

"Mae Carwyn yn arwain y frwydr yn erbyn Brexit caled, i sicrhau swyddi yng Nghymru, ac i gael y fargen orau i'n cymunedau."