Cwmni'n tynnu cais yn ôl am fasnachfraint trenau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tren
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2003, Arriva sydd wedi rhedeg gwasanaethau trên Cymru

Mae un o'r tri chwmni oedd yn cystadlu am y fasnachfraint trenau Cymru a'r Gororau wedi tynnu yn ôl o'r broses.

Dywedodd Abellio Rail Cymru nad oedden nhw wedi gallu delio gyda methiant y cwmni adeiladu oedd yn bartner iddyn nhw yn y fenter, Carillion.

Mae'n golygu mai MTR a KeolisAmey yw'r unig ddau gwmni fydd yn cystadlu am y fasnachfraint, sydd hefyd yn cynnwys Metro De Cymru.

Fe wnaeth Arriva, y cwmni sy'n rhedeg y gwasanaeth ar hyn o bryd, gyhoeddi llynedd na fyddan nhw'n parhau â'u cais.

Mewn datganiad dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates fod Abellio "wedi cymryd y penderfyniad anffodus i dynnu eu cais yn ôl ar ôl methu dygymod â diddymiad Carillion".

'Amaturaidd'

Bydd masnachfraint Cymru a'r Gororau, sydd yn rhedeg y rhan fwyaf o wasanaethau'r wlad, yn cael ei dyfarnu yn nes ymlaen eleni gan Lywodraeth Cymru drwy gwango newydd Trafnidiaeth Cymru.

Ychwanegodd Mr Skates: "Mae gennym ni ddau ymgeisydd ar ôl yn y broses ac rydym yn parhau i anelu i ddyfarnu'r cytundeb cyffrous hwn ym mis Mai 2018 a thrawsnewid gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau o fis Hydref 2018."

Dywedodd llefarydd ar ran Abellio eu bod wedi gorfod tynnu yn ôl o'r broses wedi i gwmni Carillion ddirwyn i ben ym mis Ionawr.

Yn dilyn y newyddion dywedodd AC Plaid Cymru, Adam Price ei bod hi'n "amaturaidd" nad oedd Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod Abellio yn canfod partneriaid gwahanol yn dilyn rhybudd y llynedd am sefyllfa ariannol Carillion.

"Roedd y broses gaffael ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau yn dibynnu ar gael sawl ymgeisydd er mwyn cyflwyno ystod eang o syniadau am sut i wella'r gwasanaeth i deithwyr yng Nghymru," meddai.