Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-2 Aldershot
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth yr ymosodwr Scott Quigley sgorio ddwywaith wrth i Wrecsam gael gêm gyfartal gydag Aldershot ar y Cae Ras.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 22 munud, gyda Quigley yn rhwydo y dilyn camgymeriad gan y golwr Jake Cole.
Fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl cyn hanner amser, wrth i'r Gwyddel Shamir Fenelon benio heibio i Chris Dunn.
Aeth Wrecsam yn ôl ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner, gyda Quigley yn sgorio ei ail gôl o'r prynhawn.
Ond daeth Aldershot yn ôl unwaith eto wrth i Callum Reynolds benio i'r rhwyd o gic gornel.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn disgyn un safle i chweched yn y Gynghrair Genedlaethol.