Jones: 'Masnach â'r UDA yn bwysicach yn dilyn Brexit'
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Carwyn Jones yn dadlau dros gytundeb masnach rydd rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau mewn cyfarfodydd gyda phobl busnes a gwleidyddion yn America yr wythnos hon.
Dywedodd byddai cysylltiadau rhwng Cymru ac America hyd yn oed yn bwysicach ar ôl Brexit.
Er iddo ymgyrchu yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd bod 'na "gyfleoedd cyffrous" o flaen Cymru i fasnachu gyda'r Unol Daleithiau.
Dros yr wythnos nesaf fe fydd yn ymweld â Washington, Canada ac Efrog Newydd, ble fydd e'n rhoi araith ar hawliau merched ac yn cwrdd â Hillary Clinton.
Yr ail farchnad fwyaf
Mae ei ymweliad yn cynnwys digwyddiadau ar thema Dydd Gŵyl Dewi i hybu Cymru fel lleoliad ar gyfer busnesau a thwristiaid.
Gogledd America yw ail farchnad fwyaf Cymru ar gyfer allforio, y tu ôl i Ewrop.
Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae gwerth allforion wedi disgyn ers 2012, ond fe gododd eto yn y flwyddyn 2016 i bron £2.5bn.
Mae'r llywodraeth yn dweud bod 270 o gwmnïau Americanaidd yn cyflogi bron 50,000 o bobl yng Nghymru.
Daw sylwadau'r prif weinidog er iddo bwysleisio pwysigrwydd cadw cysylltiadau masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r DU gael "mynediad llawn" i'r farchnad sengl.
Mae Mr Jones hefyd wedi dweud y dylai'r DU aros yn yr undeb dollau - rhywbeth fyddai'n ei atal rhag cael cytundebau masnach newydd gyda gwledydd eraill.
'Partner busnes pwysicaf'
Ond cyn mynd i'r Unol Daleithiau, dywedodd y byddai'n "pwyso dros ddatblygu cytundeb masnach rydd rhwng ein gwledydd".
Dywedodd Mr Jones: "America yw partner busnes pwysicaf Cymru, ac rwy' am adeiladu ar y cysylltiadau masnach cryf sy'n bodoli rhwng ein dwy wlad wrth i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
"Yn ystod fy ymweliad, fe hoffwn i gael gwell dealltwriaeth o safbwynt yr Unol Daleithiau am drefniadau masnach gyda'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, ac fe fyddaf yn pwyso dros ddatblygu cytundeb masnach rydd rhwng ein gwledydd.
"Mae cyfleoedd cyffrous i fasnachu â Gogledd America o'n blaen ac, wrth drafod â busnesau a gwleidyddion America, fe fyddaf yn pwysleisio eto ein hymrwymiad i roi hwb i fasnach rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau.
"Wrth i Gymru a'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, hoffwn sicrhau buddsoddwyr ac ymwelwyr o'r Unol Daleithiau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad agored a chroesawgar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd9 Medi 2016