Lluniau: Dydd Gŵyl Rhewi
- Cyhoeddwyd
Gyda rhybudd coch o eira a thywydd garw mewn rhannau o Gymru fe wnaeth rhai ailenwi Dydd Gŵyl Dewi 2018 yn Ddydd Gŵyl Rhewi...
Dyma rai o luniau Cymru ar ddydd ein nawddsant eleni.

Llun gan Hayley Jenney i ddymuno Gŵyl Ddewi hapus o eira a rhew Llwynycoed

Ydy, mae hi'n oer, ond yn ffodus, does dim yn gynhesach na brethyn Cymreig!

O'r diwedd, mae yna eira i Lewpart Eira Sŵ Mynydd Cymru, Bae Colwyn!

Go brin fydd Ysgol Pentrefoelas yn agor heddiw

Staff a myfyrwyr rhyngwladol cwrs Celtic English yng Nghaerdydd yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn yr eira

"Druan o'r ffermwyr a'r anifeiliaid!" meddai Teleri Jones o Gwmtirmynach ger y Bala wedi gweld y lluwchfeydd yma

Triawd lliwgar yng Nghaernarfon yn barod i wynebu'r oerfel ar eu ffordd i'r ysgol

Sunny (!) y Cob Cymreig yn cael ei frecwast mewn tymheredd o -7C yn Llanarmon yn Iâl, Sir Ddinbych

Gwartheg duon yn y lluwchfeydd eira ym Mhentrefoelas

Does neb llawer wedi mentro allan i fwyta yn Mill Lane, Caerdydd, heddiw

Nid eira, ond ewyn y môr wedi ei chwythu gan y gwyntoedd cryfion ym Menllech, Ynys Môn

Llyn hwyaid yng Ngresffordd ger Wrecsam wedi rhewi

... a rhannau o afon Dwyryd ger Maentwrog hefyd wedi rhewi

Llanbrynmair ym Mhowys fore Dydd Gŵyl Dewi

Defaid yn cysgodi yn Ganllwyd, ger Dolgellau

Mae nifer o blant Cymru yn methu'r cyfle i wisgo eu gwisgoedd Cymreig i'r ysgol heddiw, ond yn edrych yn hapus iawn beth bynnag!