Eli Walker yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae rygbi

  • Cyhoeddwyd
walkerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eli Walker ei unig ymddangosiad dros y tîm cenedlaethol yn erbyn Iwerddon yn 2015

Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol, Eli Walker wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r gêm.

Roedd Walker yn chwarae fel asgellwr i ranbarth Y Gweilch.

Ac yntau'n 25 oed, fe ddioddefodd Walker anaf i'w gefn wnaeth orfodi iddo gael llawdriniaeth.

Nid yw Walker wedi llwyddo i adfer ei ffitrwydd yn llawn ers ei lawdriniaeth, ac mae meddygon wedi ei gynghori i ymddeol yn gynnar.

Dywedodd Walker fod y penderfyniad i ymddeol yn un "anodd iawn" i'w wneud.

"Mae rhoi'r gorau iddi yn rhywbeth anodd iawn i'w wneud, ond mae'n rhaid i mi wneud y penderfyniad yma i ymddeol o'r gêm, a dyma'r peth iawn i mi ei wneud," meddai.

Fe wnaeth Walker ei unig ymddangosiad dros y tîm cenedlaethol yn erbyn Iwerddon yn 2015.