Dim treth i bobl ifanc sy'n gadael gofal yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Generic teenager calculating their budgetFfynhonnell y llun, Getty Images

Fydd hi ddim yn ofynnol i bobl ifanc sy'n gadael gofal yn Sir Gaerfyrddin dalu treth y cyngor nes eu bod yn 25 oed os bydd cynllun newydd yn dod i rym.

Fe fyddai'r cynllun, ar hyn o bryd, yn effeithio ar 80 o bobl ac yn costio £6,000 y flwyddyn i'r awdurdod lleol.

Bydd y cyngor llawn yn penderfynu a ddylid rhoi sêl bendith i'r cynllun.

Fis Hydref y llynedd, Caerdydd oedd yr ail gyngor i benderfynu na ddylai pobl ifanc sy'n gadael gofal dalu treth y cyngor nes eu bod yn 21.

Roedd Cyngor Torfaen eisoes wedi penderfynu gwneud hynny.

'Rhaid dangos cydymdeimlad'

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies y dylai cefnogaeth y cyngor barhau i bobl ifanc wedi iddynt adael gwasanaeth gofal yr awdurdod lleol.

Ychwanegodd: "Mae mynd mas i'r byd go iawn yn anodd ac mae nifer o'r rhai sy'n gadael gofal yn cael trafferth gyda hynny ac felly dylai eu heithrio rhag talu treth fod o help iddyn nhw.

"Mae'n plant ni yn dod adre weithiau i gael cyngor. Rhaid i ni ddangos yr un cydymdeimlad tuag at y rhai sy'n gadael gofal."

Ar hyn o bryd mae pob cyngor yn Yr Alban yn eithrio y rhai sy'n gadael gofal rhag talu treth ac mae 33 cyngor yn Lloegr yn gwneud hynny.

Mae'r cynllun yn cael cefnogaeth Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.