Dros 1,000 o gartrefi yn parhau heb gyflenwad dŵr
- Cyhoeddwyd

Poteli dŵr yn cael eu dosbarthu ym Mlaenau Ffestiniog
Mae dros 1,000 o gartrefi yn parhau heb gyflenwadau dŵr ar ôl i bibellau dorri yn sgil effeithiau'r tywydd garw.
Dywed Dŵr Cymru eu bod yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau yng Ngwynedd, Sir Benfro ac Ynys Môn.
Ar raglen Good Evening Wales a BBC Radio Wales brynhawn dydd Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Pete Perry, bod y cartrefi sy'n parhau heb ddŵr yn tueddu i fod mewn "cymunedau ynysig".
Disgrifiodd y sefyllfa fel "digwyddiad mawr" ac ymddiheurodd i gwsmeriaid sydd wedi wynebu anhawsterau.

Dywedodd prif weithredwr Dŵr Cymru, Pete Perry bod y cartrefi sy'n parhau heb ddŵr yn tueddu i fod mewn "cymunedau ynysig".
"Mae'r heriau nawr mewn ardaloedd gwledig, lle mae gyda ni brif bibellau hir iawn", meddai, gan egluro fod yna nifer o dyllau i'w trwsio, ond nad oes digon o ddwr yn y system i ddod o hyd i'r holl fannau sy'n gollwng.
Mae rhai wedi cwyno am yr oedi cyn iddyn nhw dderbyn cyflenwadau o ddŵr potel, ond dywedodd Mr Perry fod cyrraedd rhai mannau wedi bod yn anodd: "Mae cael mynediad wedi (i rai ardaloedd) bod yn broblem fawr a dyna pam nad ydyn ni wedi gallu dosbarthu dŵr potel mor gyflym â phosib.
"Byddwn yn gweithio'n ddi-baid i geisio datrys hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2018