Cefnogaeth i alwad Plaid i ddiogelu dinasyddiaeth UE
- Cyhoeddwyd
Cafodd galwad Plaid Cymru i roi'r hawl i Brydeinwyr gadw eu dinasyddiaeth Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit ei chefnogi gan ASau yn Nhŷ'r Cyffredin heb bleidlais.
Roedd y blaid yn dadlau bod dinasyddiaeth Ewropeaidd yn rhoi'r hawl i bobl deithio, byw, astudio a gweithio mewn unrhyw le yn yr UE wedi i'r DU adael yr undeb y flwyddyn nesaf.
Cafodd y ddadl ei chefnogi gan bleidiau gwleidyddol eraill sy'n gwrthwynebu Brexit a rhai arbenigwyr cyfreithiol, ond dydy'r canlyniad ddim yn gorfodi Llywodraeth y DU ymrwymo iddo.
Yn ystod dadl barodd dair awr, gwrthodododd gweinidogion y cynnig, gan ddweud mai ond dinasyddion o wledydd sy'n aelodau o'r UE sydd â hawl i gael dinasyddiaeth UE, ar wahan i Brydeinwyr sydd â chenedligrwydd ddeuol o fewn yr UE.
Dywedodd Plaid Cymru mai dyma'r tro cyntaf i un o'u cynigion gael ei basio yn Nhŷ'r Cyffredin.
Anaml y mae ASau'r Ceidwadwyr yn cymryd rhan mewn dadl o'r fath gan y gwrthbleidiau.
Roedd y cynnig hefyd yn galw am gadw Prydain yn rhan o farchnad sengl yr UE - sydd eisoes wedi ei wrthod gan y llywodraeth.
Mae gwleidyddion ac ymgyrchwyr wedi arwyddo llythyr at y Prif Weinidog Theresa May yn gofyn iddi flaenoriaethu diogelu dinasyddiaeth yr UE yn ystod trafodaethau Brexit.
Byddai'r cynnig yn caniatáu dinasyddion Prydeinig gadw eu "hunaniaeth a'u dinasyddiaeth Ewropeaidd" naill ai drwy ddiogelu'r cytundebau sy'n bodoli eisoes neu drwy greu model newydd.
Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r ymdrech gyfreithiol i gael Llys Cyfiawnder Ewrop i benderfynu a ddylai dinasyddiaeth Ewropeaidd pobl y DU barhau wedi Brexit.
Mae Jolyon Maugham QC wedi dadlau bod tynnu dinasyddiaeth UE oddi ar bobl y DU yn mynd yn groes i gyfraith Ewrop a chyfraith ryngwladol.
'Cynhenid i'n hunaniaeth'
Dywedodd llefarydd Brexit Plaid Cymru, Hywel Williams: "Mae ein dinasyddiaeth Ewropeaidd yn gynhenid i'n hunaniaeth Ewropeaidd.
"Dwi'n Ewropead - Ewropead Cymreig - ac ni ddylai unrhyw lywodraeth, gwladwriaeth nac unrhyw un sy'n bleidiol i Brexit gael yr hawl i dynnu hynna oddi arnaf i neu unrhyw un arall."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU na fydd pobl Prydain yn cael cadw eu dinasyddiaeth Ewropeaidd wedi i'r DU adael yr undeb oni bai bod ganddyn nhw genedligrwydd deuol.
Ychwanegodd: "Ry'n yn edrych ymlaen at drafod ein darpar berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd - un fydd yn gweithio er budd y DU a'r UE."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2017