Catrawd y Cymry Brenhinol yn dal eu Shenkin newydd

  • Cyhoeddwyd
GafrFfynhonnell y llun, Dek Traylor/Y Goron

Mae Catrawd y Cymry Brenhinol wedi llwyddo i ddal gafr newydd i ymuno a'r Trydydd Bataliwn, wedi sawl ymgais aflwyddiannus.

Cyhoeddodd y fyddin fod Shenkin IV bellach wedi dechrau ar ei hyfforddiant wedi i filwyr deithio i Ben y Gogarth yn Sir Conwy i'w ddewis.

Methiant oedd ymdrechion milwyr i'w ddal ym mis Chwefror oherwydd fod y tir yr oedd yn pori arno'n serth a garw.

Dywedodd y Capten Tom Sobik o'r Catrawd: "Roedden ni'n awyddus i beidio â brysio'r broses.

"Roedd lles yr anifail yn hollbwysig, ac yn unol â chyngor gan filfeddyg o'r RSPCA, fe geision ni annog Shenkin i safle diogel.

"Fodd bynnag, er gwaetha sawl ymgais, fe benderfynon ni ei bod hi'n well i ni ohirio'r broses."

Ffynhonnell y llun, Dek Traylor/Y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r creigiau garw'n gwneud y broses o ddal yr afr yn un anodd

Dywedodd fod y cyhoedd wedi cymryd diddordeb mawr yn yr ymdrechion cynnar i ddal yr afr, a'i bod yn rhyddhad fod Shenkin IV bellach yn eu meddiant.

"Does dim amheuaeth bod gyda ni gymeriad ar ein dwylo. Mae Shenkin yn eicon Cymreig a bydd yn denu'r un faint o sylw a'i ragflaenwyr," meddai.

Mae Shenkin IV yn olynu Shenkin III fu farw ym mis Medi 2017.

Ffynhonnell y llun, Y Fyddin
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Shenkin III ym mis Medi 2017

Mae cael gafr yn aelod o Gatrawd y Cymry Brenhinol yn draddodiad sy'n dyddio'n ôl ddwy ganrif ac mae Shenkin yn enwog am ei ymddangosiadau gyda'r gatrawd yn Stadiwm Principality ar ddiwrnod gêm rygbi rhyngwladol.

Bydd Shenkin IV yn gwneud ei ymddangosiad swyddogol cyntaf ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn Llandudno ar 30 Mehefin.