Ymatebion i Fesur y Gymraeg yn 'gamarweiniol'

  • Cyhoeddwyd
Papur Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynnwys y Papur Gwyn ei gyhoeddi gan Alun Davies, y gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Gymraeg ar y pryd, ym mis Awst

Mae'n bosib y bydd cwynion gan ymgyrchwyr iaith yn newid y modd y mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cofnodi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod 275 o'r atebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Fesur y Gymraeg wedi'u disystyru.

Mae swyddog ar ran Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod peth sail i'r gŵyn gan nad yw'r canllawiau ynghylch cofnodi atebion sy'n rhan o ymgyrch yn glir.

'Camarweiniol'

Cafwyd 504 o ymatebion i ymgynghoriad y Llywodraeth ar ddeddfwriaeth arfaethedig yr iaith Gymraeg.

Roedd 278 ymateb pellach wedi'u cyflwyno drwy dair ymgyrch gwahanol ac roedd 45 o'r rhai hynny wedi'u hanfon ar bapur.

Pan gyhoeddwyd canlyniad yr ymgynghoriad roedd 56% o'r rhai a ymatebodd naill ai'n anghytuno neu'n ansicr am gael corff yn lle y Comisiynydd Iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y byddai'r ffigwr dros 70% petai'r Llywodraeth wedi cymryd pob ateb i ystyriaeth - yn hytrach na chyfrif yr ymatebion i ymgyrchoedd fel un.

Yn eu chŵyn dywedodd Manon Elin o Gymdeithas yr Iaith bod Llywodraeth Cymru wedi "anwybyddu hanner yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n golygu bod yr ystadegau a gyflwynwyd yn rhoi darlun camarweiniol o'r ymateb a gafwyd, yn enwedig gan y cyhoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod yr ymatebion a gofnodwyd ar ddiddymu swydd y Comisiynydd yn gamarweiniol

Wrth ymateb i'r gŵyn dywedodd Prys Davies ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rwy'n credu bod peth sail i'r gŵyn. Dyw'r cyfarwyddiadau (i staff mewnol) ddim yn rhoi canllaw clir ar sut y dylai ymatebion sy'n cefnogi ymgyrch gael eu hystyried a'u nodi ac mae hyn yn wendid sydd angen ei gywiro."

Mae Mr Davies. sy'n uwch-was sifil, yn argymell newid y canllawiau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ymhellach ei bod wedi nodi sylwadau Cymdeithas yr Iaith ac y byddant yn ystyried pob ymateb sy'n cael ei dderbyn.