Sut mae bywyd menywod wedi newid?
- Cyhoeddwyd
Pan anwyd Ifanwy Williams yn Lerpwl yn 1922 roedd newid mawr ar droed. Roedd hi'n bedair blynedd ers i ferched ennill yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf ac roedd y Rhyfel Mawr, oedd newydd ddod i ben, wedi newid popeth.
Fel heddychwraig ar hyd ei hoes, mae hi'n un o sylfaenwyr ymgyrch Heddwch Nain/Mam-gu sy'n cofio deiseb dros heddwch a lofnodwyd gan ferched Cymru yn 1923-24.
Ymddeolodd Ifanwy fel gweithiwr cymdeithasol yn 1981 ac mae hi'n byw ym Mhorthmadog ac yn 96 mlwydd oed.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2018 gofynnodd Cymru Fyw iddi hel atgofion am y pethau sydd wedi siapio'r newidiadau i fenywod dros y ganrif ddiwethaf.
"Un o'r pethau sydd wedi eu colli wrth bod merched a dynion yn trïo bod ar yr un lefel ydy cwrteisi: gadael ichi fynd drwy'r drws o'u blaenau nhw, codi cap a phethau felly - yn wahanol i rai pobl dwi'n licio'r hen steil!
"Y peth arall sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr ydy'r bilsen - bod merched yn medru dewis sut maen nhw'n gwneud defnydd o'u cyrff."
"Ysgol i ferched yn unig oedd yr ysgol yr adeg honno ac roedd yr athrawon i gyd yn ferched di-briod. Os oeddach chi'n priodi, roeddach chi'n colli'ch swydd. Dim ond rhyw 10 mlynedd oddi ar ddiwedd y Rhyfel Mawr oedd hi pan gychwynais i'r ysgol - tybad nag oedd yr athrawon di-briod hynny wedi colli cariadon neu wŷr?"
"Cyn fy amser i, roedd yn ddewis rhwng gyrfa a phrodi, ond mi ges i fynd i'r brifysgol i astudio fel gweithiwr cymdeithasol. Roedd y rhan fwyaf ar y cwrs yn ferched - roedd y math o waith yn apelio atyn nhw."
"Mi wnaeth yr Ail Ryfel Byd roi cyfle i ferched mewn ffatrïoedd, ar y tir, yn yr AF, ond roeddwn i'n un o'r gwrthwynebwyr. Roedd pobl yn edrych yn hyll iawn arna i"
"Mi es i weithio oherwydd prinder arian - roedd fy ngŵr yn weinidog ac roedd y tâl yn dila iawn. Dwi'n credu mod i'n un o'r gwragedd gweinidog cyntaf i weithio. Pan glywodd aelodau'r capel fod gwraig y gweinidog yn gweithio, roeddan nhw mewn sioc. Doeddan nhw'n methu deall ac yn gweld bai arna i - dim i fy wyneb ond dwi'n gwybod nad oeddan nhw'n cydweld o gwbl.
"Mater o anghenrhaid oedd parhau i weithio. Mi gafodd fy ngŵr salwch creulon iawn ac roedd yn gorfod rhoi'r gorau i'w eglwys. Fi oedd yr un oedd yn dod â'r arian i fewn. Roedd yn straen magu a gweithio ac efo'r gŵr yn wael - roedd yn amser reit bryderus."
"Mae gorfodaeth ar ferched i weithio erbyn hyn oherwydd bod rhaid i'r gŵr a'r wraig rhyngddyn nhw dalu morgej.
"Mi wnes i ddod yn rhan o grwp Heddwch Nain/Mam-gu oherwydd mod i wedi bod yn heddychwr ar hyd yr amser. Mi ddaru 2,000 o ferched orymdeithio i ddangos eu gwrthwynebiad i'r Rhyfal Mawr yn 1926.
"Mae'r ddau beth - mudiad y syffrajets a'r gwragedd ddaru gerdded dros heddwch - yn cyd-redeg hyd y gwela i. Roeddan nhw wedi cael colledion, roedd erchylltra'r rhyfel mawr a beth oedden nhw wedi ei ddioddef, wedi eu hysgogi nhw."