Artist yn creu celf i amgueddfa sydd wedi ei ysbrydoli

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos tan ddechrau Medi

Mae'r artist o Lanelli, Cerith Wyn Evans, wedi datgelu gosodiad newydd yn yr amgueddfa "fawreddog" oedd yn ysbrydoliaeth iddo.

Tair disg o olau neon llachar gwyn sydd yn ffurfio'r darn, a gafodd ei greu yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Enw'r darn yw 'Radiant Fold (....the Illuminating Gas)' ac mae wedi'i ysbrydoli gan un o weithiau enwocaf yr artist cysyniadol gwreiddiol, Marcel Duchamp.

Wrth ddadorchuddio'r gwaith, dywedodd Mr Evans fod hon yn foment oedd yn gwneud iddo deimlo mor falch â phan ddangosodd eu weithiau eraill yn y Centre Pompidou ym Mharis ac yn yr amgueddfa gelf fodern, MOMA, yn Efrog Newydd.

Y celf yn 'llythyr serch'

"Mae'n anrhydedd fawr i mi allu dangos y gwaith yn yr amgueddfa fawreddog hon. Roedd yn lle pwysig iawn i mi wrth dyfu fyny. Fe ddes i yma yn blentyn," meddai.

"Mae'n fraint cael bod ym mhresenoldeb y gweithiau arbennig."

Yn oriel Colwinston yn yr amgueddfa bydd y gwaith yn hongian. Mae'n ystafell sgwâr gyda tho siâp pyramid.

Wrth ddisgrifio'r lleoliad fel rhywle gyda "chymesuredd eithaf llym," dywedodd Mr Evans fod y gwaith "yn llythyr serch i'r ystafell yma.

"Mae'r ystafell yma yn arbennig iawn. Os fydden ni wedi gosod y gwaith yma mewn unrhyw ystafell neu ardal arall, byddai'r darn wedi gweithio mewn ffordd wahanol iawn."

Ffynhonnell y llun, Robin Maggs
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr artist o Lanelli yn dod i'r amgueddfa pan oedd yn blentyn

Ganwyd Mr Evans yn Llanelli ym 1958 ac mae wedi'i barchu yn rhyngwladol am ei weithiau celf golau neon.

Yn 2017 defnyddiodd fwy na dau gilometr o olau neon ar gyfer gosodiad yn Tate Britain yn Llundain.

Fe oedd yr artist cyntaf i gynrychioli Cymru yn y Biennale yn Venice yn 2003. Mae hefyd yn creu gwaith ffotograffiaeth, ffilm a cherfluniau.

Rhoddodd ei waith diweddaraf i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd trwy gynllun Great Works, sydd yn trio sicrhau bod amgueddfeydd y Deyrnas Unedig yn berchen ar weithiau celf gan artistiaid Prydeinig gorau'r 20 mlynedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Robin Maggs

Mae'r rhodd wedi ei chroesawu gan Nicholas Thornton, pennaeth celfyddyd gain Amgueddfa Cymru, ddywedodd ei fod wedi trio cael gafael ar un o weithiau Mr Evans ers peth amser.

"Pob blwyddyn rydyn ni, fel curaduron a staff yr adran gelf, yn creu wish list o artistiaid sydd angen eu cynnwys yn y casgliad cenedlaethol.

"Yn gyson dros y 10 mlynedd dwi wedi bod yma mae enw Cerith wedi bod ar ben y rhestr. Fe yw'r artist rydyn ni fel amgueddfa eisiau fwyaf i'w ychwanegu at ein casgliad.

"Mae wedi dod yn bosibilrwydd mewn ffordd allen ni byth fod wedi dychmygu, a gyda gwaith o raddfa a phwysigrwydd mawr, gwaith sydd yn creu deialog gyda'r gofod yma a gyda'r amgueddfa ehangach hefyd."

Fe fydd y gwaith yn ymuno a chasgliad Amgueddfa Cymru ac yn cael ei arddangos yng Nghaerdydd nes 2 Medi eleni.