Cyfarfod i drafod lleoliad ysbyty newydd yn y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
ysbyty glangwili
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin yn un o'r rhai allai gael eu heffeithio gan y newidiadau

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi clywed galwadau am leoli ysbyty newydd yng ngorllewin Cymru ar gyrion Caerfyrddin.

Fe wnaeth maer y dref, Alun Lenny alw'r cyfarfod ddydd Iau yn dilyn cynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddiwygio gwasanaethau iechyd yn yr ardal.

Mae'r bwrdd iechyd wedi llunio sawl cynllun posib i'w hystyried, sydd yn cynnwys cau rhai ysbytai o bosib.

Un o'r rhai mwyaf dadleuol yw agor ysbyty newydd fyddai'n cymryd lle Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty'r Tywysog Phillip yn Llanelli.

'Prif dref'

Mae'r holl opsiynau sydd dan ystyriaeth yn cynnwys creu rhwydwaith o ganolfannau cymunedol, ond does dim un ohonyn nhw'n cynnwys cau Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

Dyw safle'r ysbyty newydd arfaethedig ddim wedi ei benderfynu eto, ond y gred yw y byddai wedi'i leoli yn ardal Llanddewi Efelffre, tua hanner ffordd rhwng Hwlffordd a Chaerfyrddin.

Ond mynnodd Mr Lenny y dylai ysbyty newydd gael ei leoli ar yr A40 i'r gorllewin o Gaerfyrddin, ar y maes sioe gyfagos er enghraifft, os oes angen israddio Glangwili.

"Caerfyrddin yw prif dref y gorllewin," meddai.

Disgrifiad,

Alun Lenny: 'Dylai'r ysbyty newydd fod ar gyrion Caerfyrddin'

"Yma mae'r sefydliadau mawr, yma mae'r brifysgol, a bydd angen hyfforddi lot mwy o nyrsys ac yn y blaen, felly yma ddylai'r ysbyty fod."

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Dr Philip Kloer ei fod yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y mater unwaith y bydd yn cael ei lansio.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n ystyried effaith, goblygiadau ac adnoddau'r opsiynau a'u cyfyngu nhw ymhellach," meddai.

Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi cyfarfod a maer a dirprwy faer Caerfyrddin ac rydym yn awyddus i weithio gyda'n holl gymunedau er mwyn dylunio rhywbeth sydd yn gwella iechyd ein poblogaeth a'r ddarpariaeth gofal."