Sefyllfa ariannol bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwaethygu

  • Cyhoeddwyd
ysbytyFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae sefyllfa ariannol Hywel Dda, y bwrdd iechyd sydd â'r lefel uchaf o orwario yng Nghymru, wedi dirywio ymhellach.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae'r bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am wasanaethau yn y gorllewin yn amcangyfrif y bydd yna ddiffyg o bron i £70m.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd mai pwysau ychwanegol yn ystod cyfnod yr hydref sy'n gyfrifol.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi ei gwneud hi'n gwbl glir i Fwrdd Iechyd Hywel Dda fod y lefel o ddiffyg ariannol yn annerbyniol.

£69m

Y gred yw y bydd y diffyg ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn tua £69m.

Roedd y bwlch yn £49m yn 2016/17 a £31m yn 2015/16.

Mae'r cyfanswm gorwario o £149m dros gyfnod o dair blynedd yn llawer mwy na ffigyrau'r byrddau iechyd eraill yng Nghymru.

Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan fesurau arbennig, yn wynebu diffyg ariannol o £36m ar gyfer eleni, gyda chyfanswm o £86m dros gyfnod o dair blynedd.

Mae hyn yn cymharu â gorwariant o £62m gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro dros gyfnod o ddwy flynedd, tra bod Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn rhagweld diffyg o £36m.

Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd yn y gorllewin

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r pedwar bwrdd iechyd dan lefel o oruchwyliaeth ariannol oherwydd amheuaeth am eu gallu i gwrdd â'r heriau ariannol o'u blaenau.

Mae gweinidogion ym Mae Caerdydd wedi dweud na fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o arian iddynt.

Er hyn maen nhw'n dweud y bydd y colledion yn cael eu talu, ond bod disgwyl i'r byrddau ad-dalu'r arian i'r llywodraeth maes o law.

Methu targed

Dywedodd Stephen Forster, cyfarwyddwr ariannol Hywel Dda, fod y gwasanaeth wedi wynebu pwysau ychwanegol "yn ystod y trydydd chwarter yn 2017/18 a bod hyn wedi ei adrodd i gyfarfod o'r bwrdd ar 25 Ionawr".

"Yng ngoleuni hyn, ac ar ôl ystyried y gwahanol fathau o heriau o'n blaenau, fe wnaethom gytuno i gynyddu'r rhagdybiaeth o'r diffyg i £69.6m ar gyfer y flwyddyn 2017/18."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog iechyd wedi ei gwneud yn gwbl glir i Fwrdd Iechyd Hywel Dda fod y lefel o ddiffyg ariannol yn annerbyniol.

"Mae o hefyd wedi ei gwneud yn glir fod angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau gwasanaethau iechyd cynaliadwy o fewn Hywel Dda.

"Cafodd y bwrdd dargedau clir i beidio gwario mwy na'r diffyg o £58.9m, ond doedd hi ddim tan fis Rhagfyr iddyn nhw ddweud y byddant yn methu'r targed."

Ychwanegodd bod "pryderon sylweddol o ran rheolaeth ariannol ac o adrodd yn ôl o fewn y bwrdd", a bod y llywodraeth "mewn cysylltiad â nhw ac yn ymdrin â hyn mewn manylder".

"Rydym yn hyderus y bydd y cyllid iechyd yn un cytbwys erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, hyd yn oed o ystyried y cynnydd mewn diffyg o ran Hywel Dda."