Dod i 'nabod Cymry Gemau Paralympaidd y Gaeaf

  • Cyhoeddwyd
Chris Lloyd a Menna FitzpatrickFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Chris Lloyd a Menna Fitzpatrick yn cynrychioli tîm Prydain yng Ngemau Paralympaidd y Gaeaf

Wedi llwyddiant Laura Deas yn ennill medal efydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf fis diwethaf, mae Chris Lloyd a Menna Fitzpatrick yn gobeithio gwneud cystal yn y Gemau Paralympaidd.

Dyma'r Cymry sy'n rhan o dîm Prydain fydd yn cystadlu yn PyeongChang, De Korea, dros yr wythnosau nesaf.

Chris Lloyd

Mae Chris Lloyd o Bontypridd yn 43 oed, ac yn dilyn damwain car difrifol wrth gystadlu mewn rali yn 2011 cafodd ei barlysu o'i wddf i lawr.

Daeth ergyd pan ddywedodd doctoriaid wrtho na fyddai byth yn sgïo eto.

Ond yn dilyn dwy flynedd o adferiad llwyddodd i gael ei ddewis i dîm sgïo Prydain ac mae nawr yn paratoi i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd hi ddwy flynedd cyn i Chris Lloyd allu sgïo eto yn dilyn ei ddamwain

"Fe ddechreuodd fy uchelgais o gyrraedd y Gemau Paralympaidd pan oeddwn yn yr ysbyty, roedd Gemau Llundain 2012 ymlaen ar y pryd," meddai.

"Pan oeddwn i yn fy nghadair olwyn fe wnes i osod amcan i gyrraedd y Gemau Paralympaidd."

Dim ond 50% o bŵer sydd gan Lloyd yn ei ddwy goes ac mae'n gorfod gwneud ymarferiadau canolbwyntio'n ddyddiol.

Menna Fitzpatrick

Mae Menna Fitzpatrick wedi breuddwydio am ennill medal Olympaidd ers iddi afael ym medal aur y rhwyfwr Sir Steve Redgrave pan oedd hi'n 13 oed.

Bellach yn 19 oed, mae hi'n rhan o dîm Cymru Dragon Alpine, a hefyd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf.

Dim ond 5% o olwg sydd ganddi ac mae hi'n sgïo y tu ôl i'w harweinydd, Jen Kehoe sy'n gwisgo crys llachar oren i'w chynorthwyo lawr y llethr.

Nhw yw'r Prydeinwyr cyntaf i ennill Cwpan y Byd ar gyfer sgiwyr gyda nam ar eu golwg ar ôl eu buddugoliaeth yn 2016.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Menna Fitzpatrick (chwith) a'i harweinydd Jen Kehoe

Dywedodd Fitzpatrick: "Dwi'n trystio Jen 100% gyda fy mywyd, i wybod ei bod hi'n gallu fy nghael i lawr y cwrs yn ddiogel."

Mae hi'n gamp ble mae rhaid i'r ddwy fod ar eu gorau os am unrhyw obaith o ennill medal, ac yn ogystal â sgïo'n gelfydd mae angen cyfathrebu'n effeithiol hefyd.

Dywedodd Kehoe: "Rydym yn cyfathrebu drwy declyn yn ein helmedau a dyna yw llinell bywyd Menna, mae cymaint ohono am y cyfathrebu."

Bydd Gemau Paralympaidd y Gaeaf yn Pyeongchang, De Korea yn dechrau ddydd Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jen Kehoe yn gwisgo crys llachar ac yn cyfathrebu â Menna Fitzpatrick drwy ei helmed