'Newid delwedd' yn denu mwy o ferched i chwarae rygbi

  • Cyhoeddwyd
Merched yn chwarae rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae merched sy'n chwarae rygbi yn cael eu parchu mwy medd y rhai sy'n ymwneud a'r gêm

Mae cynnydd mawr wedi bod mewn rygbi merched ar lawr gwlad am fod yna newid yn y ffordd mae chwaraeon i ferched yn cael ei weld, medd Undeb Rygbi Cymru.

Yn ôl yr undeb mae tua 10,000 o fenywod yn chwarae'r gêm ar draws 95 o ysgolion, colegau neu brifysgolion lle mae swyddogion rygbi llawn amser.

Tair blynedd yn ôl 170 oedd y ffigwr, pan oedd yna 43 o hybiau gwreiddiol mewn ysgolion.

Mae merched sy'n chwarae rygbi yn dweud eu bod nawr yn cael mwy o barch o fewn y gêm.

Fe lansiodd URC "glystyrau" ar draws Cymru ddwy flynedd yn ôl, sy'n cael cefnogaeth hybiau a chlybiau lleol.

Fe aeth Heledd Roberts o Ysgol Dyffryn Conwy ati i sefydlu tîm merched yn yr ardal bedair blynedd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Efa Celyn a Heledd Roberts yw y bydd mwy o dimau merched rygbi yn cael eu sefydlu yn y gogledd

Yn ddiweddar mae'r ferch 16 oed wedi cymryd rhan yn rownd derfynol dan-18 Ysgolion Cenedlaethol ym Merthyr.

"Ar y dechrau roedd pobl yn ein gweld ni fel bach o jôc, yn enwedig yn ein hysgol ni. Byddai'r bechgyn yn chwerthin ar ein pennau," meddai Heledd.

"Ond dros y blynyddoedd rydyn ni wedi cael ein cymryd fwy o ddifri ac wedi ennill cystadlaethau."

Sylw'r wasg

Fe ddechreuodd Efa Celyn, sy'n ail reng, chwarae rygbi ym mis Medi ac mae'n mwynhau'r gwaith tîm a'r agwedd gymdeithasol.

Pan ddywedodd hi wrth ei thad ei bod hi eisiau rhoi tro arni, roedd o'n "gwrthwynebu ychydig" ond mae mwy o sylw yn y wasg ynglŷn â'r tîm merched cenedlaethol wedi helpu i ennyn parch am y gêm.

Mae Eileen Murphy o Aberhonddu "wrth ei bodd" bod ei merch "yn ymwneud gyda math o chwaraeon ochr yn ochr â'r bechgyn".

Mae ei merch yn chwarae gyda thîm Gwernyfed RFC's Red Kites.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undeb wedi gweithio yn galed i newid delwedd a diwylliant medd Katy Evans

Dyw hi ddim yn pryderu am yr ochr gorfforol meddai gan ychwanegu: "Mae'n datblygu ysbryd tîm, maen nhw'n edrych ar ôl ei gilydd."

Yn ôl Katy Evans, sy'n cael ei chyflogi gan URC er mwyn cynnig cyfleoedd i ferched chwarae'r gêm, maen nhw wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o rygbi merched yn unig drwy eu hymgyrchoedd.

"Oni bai eu bod nhw wedi eu magu gyda'u tadau yn mynd a nhw i'r clwb rygbi, fydden nhw ddim o anghenraid yn ymwneud a'r peth.

"Rydyn ni wedi gwneud lot o waith o gwmpas delwedd, y diwylliant, yr hyn mae merched yn gallu elwa ohono wrth chwarae rygbi," meddai.

Cynlluniau datblygu'r gêm

"Trwy adeiladau'r clystyrau yma mae byd newydd o rygbi wedi datblygu.

"Mae'n rhywbeth mae merched eisiau bod yn rhan ohono ac maen nhw'n gweld beth yw gwerth go iawn rygbi ond mewn awyrgylch mwy cyfforddus."

Dywedodd prif weithredwr yr undeb, Martyn Phillips bod proffil a diddordeb yn y gêm wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf.

"Mae gyda ni gynlluniau i ddatblygu a chryfhau'r strwythurau hyn a'r cyfleoedd er mwyn cwrdd â'r galw cynyddol oddi wrth ferched sydd eisiau chwarae rygbi."

Bydd tîm cenedlaethol merched Cymru yn chwarae ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn Stadiwm Principality yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.