Rygbi: 'Dewch yn gynnar' yw'r rhybudd

  • Cyhoeddwyd
Welsh rugby fansFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cefnogwyr rygbi sy'n mynd i'r gêmau rhwng Cymru a'r Eidal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sul wedi cael eu cynghori i gyrraedd mewn da bryd.

Bydd Merched Cymru'n herio Merched yr Eidal am 11:45, gyda'r gic gyntaf yng ngêm y dynion am 15:00.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r gemau merched a dynion gael eu cynnal yr un diwrnod yn yr un lleoliad.

Oherwydd mesurau diogelwch ychwanegol, mae'n cymryd mwy o amser i fynd i mewn i'r stadiwm, a'r cyngor yw i beidio dod â bagiau mawr i'r gêm.

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud y bydd llawer o ffyrdd canol y ddinas ar gau o 11:30 tan 18:00.

Yn ôl Trenau Arriva Cymru, fe ddylai pobl sy'n teithio i'r gêm fynd ar y trên cynharaf posib i mewn i Gaerdydd.

Mae disgwyl i goridor yr M4 a ffyrdd eraill i mewn i'r brifddinas fod yn brysur iawn hefyd.

Bydd rhan o'r M4 tua'r dwyrain ar gau ger twnnelau Brynglas yng Nghasnewydd o 19:0 nos Sadwrn tan 10:00 fore Sul am waith uwchraddio.

Pan fydd y ffyrdd yn y canol ar gau bydd bysus Bws Caerdydd yn gorffen eu taith naill ai ar Ffordd Churchill, Heol y Brodyr Llwydion neu Stryd Tudor.

Ffynhonnell y llun, Principality Stadium
Disgrifiad o’r llun,

Map o'r ffyrdd fydd ar gau yng Nghaerdydd ddydd Sul