Ystyried caniatáu lorïau i ddefnyddio lonydd bysiau

  • Cyhoeddwyd
Lôn fysiauFfynhonnell y llun, Google

Gallai cerbydau cludo nwyddau gael yr hawl i ddefnyddio lonydd bysiau yng Nghymru er mwyn gwella llif y traffig.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn mynd i adolygu rhoi caniatâd i lorïau ddefnyddio lonydd bysiau mewn "rhai amgylchiadau".

Mae'r elusen drafnidiaeth Sustrans wedi rhybuddio y byddai hynny'n "peryglu bywydau".

Yn ôl y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar Lorïau (The Road Haulage Association) mae hynny'n syniad da ond maent yn pwysleisio bod angen gwario ar ffyrdd.

'Peidio digalonni seiclwyr'

Mae Natasha Withey o Sustrans Cymru yn poeni'n fawr am yr effaith ar ddiogelwch.

Dywedodd: "Mae lonydd bysiau yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein dinasoedd yn fwy diogel ac yn darparu rhywfaint o ddiogelwch i seiclwyr ar ffyrdd prysur.

"Yn Llundain mae oddeutu hanner y damweiniau sy'n lladd seiclwyr yn cynnwys lori ac felly mae'n glir y byddai cerbydau nwyddau trwm yn peryglu bywyd seiclwyr pe na bai trefniadau penodol i seiclwyr yn dod i rym.

"Er mwyn gwella llif y traffig rhaid i ddinasoedd ostwng nifer y cerbydau sydd ar y ffordd drwy annog pobl i ddefnyddio ffyrdd amgen o deithio a pheidio digalonni seiclwyr drwy wneud eu llwybrau yn anniogel."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn dweud bod yr eira diweddar wedi achosi iddynt beidio cyrraedd y siopau

Mae disgwyl i'r llywodraeth drafod y syniad yn ystod y flwyddyn.

Petai'n dod i rym byddai lorïau'n cael yr hawl i deithio ar lonydd i fysiau mewn amgylchiadau arbennig a hynny wedi trafodaethau ar ddiogelwch.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Comisiynydd Traffig Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf ac ymhlith ei sylwadau mae caniatáu cerbydau nwyddau trwm i ddefnyddio lonydd bysiau pan mae hynny'n ddiogel.

"Ysgrifennodd y pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn iddo adolygu'r posibilrwydd o ganiatáu cerbydau nwyddau trwm i ddefnyddio lonydd bysiau yng Nghymru mewn rhai amgylchiadau."

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph

Mae'r Gymdeithas Cludo Nwyddau ar Lorïau wedi croesawu'r syniad gan ddweud bod 90% o'r economi yn cael ei symud gan lorïau.

Dywedodd llefarydd: "Mae tagfeydd traffig yn costio biliynau i'r economi bob blwyddyn.

"Wythnos ddiwethaf fe welon ni pa mor fuan mae silffoedd archfarchnad yn gwagio pan fo cerbydau yn methu cyrraedd ar amser."

'Bwydydd yn cyrraedd siopau'

Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau (The Freight Transport Association) eu bod nhw yn falch o "glywed fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y mater o ddifrif".

"Mae'n hymchwil yn dangos ei fod yn costio punt am bob munud y mae cerbyd nwyddau trwm yn llonydd mewn tagfa draffig.

"Mae gwneud defnydd gwerthfawr o ofod ar y ffyrdd drwy roi'r hawl i gerbydau trwm deithio ar lonydd bysys, nid yn unig, yn lleddfu tagfa ond hefyd yn sicrhau nad yw'r costau cludo yn codi ac yn sicrhau hefyd fod bwydydd hanfodol yn cyrraedd y siopau ar amser."

Bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda chwmnïau priffyrdd, y comisiynydd traffig a sefydliadau cludo nwyddau.

Mae disgwyl i gasgliadau'r trafodaethau gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2019.