Rygbi Merched: Cymru 15-22 Yr Eidal

  • Cyhoeddwyd
Merched CymruFfynhonnell y llun, Asiantaeth Luniau Huw Evans

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli eu trydedd gêm o'r bron ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl ildio pedwar cais i'r Eidal.

Dyma oedd buddugoliaeth cynta tîm yr Azzurri yn y bencampwriaeth eleni, diolch i geisiadau gan Isabella Locatelli, Maria Magatti, Beatrice Rigoni a Michela Sillari.

Roedd torf o 11,000 o bobl yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wrth i gêm y merched gael ei chwarae yn yr un lleoliad a gêm y dynion am y tro cyntaf.

Ond er fod y mewnwr Keira Bevan a'r asgellwr Jaz Joyce wedi dychwelyd i'r tîm fe fethodd y merched a manteisio ar eu profiad, gan adael i'r ymwelwyr groesi'r llinell gais wedi naw munud o'r gêm.

Fe wnaeth Cymru daro'n ôl cyn yr egwyl, gyda Robyn Wilkins yn sicrhau tri phwynt, diolch i gic gosb.

Ac fe ddaeth momentwm i'r tîm wedi hynny, gyda'r wythwr Sioned Harries yn torri'r llinell fantais, ac yn paratoi'r ffordd i Alisha Butchers groesi am gais cyntaf Cymru.

Ond yr Eidal orffennodd yr hanner ar y blaen, diolch i gais gan yr asgellwr Maria Magatti yn dilyn sgrym cryf gan yr ymwelwyr.

Ffynhonnell y llun, Asiantaeth Luniau Huw Evans

Daeth eu hail gais ychydig wedi'r hanner wrth i Beatrice Rigoni ymestyn mantais yr Eidalwyr.

Yn fuan wedyn aeth tim Cymru lawr i dair dynes ar ddeg ar ôl i'r dyfarnwr Marie Lematte ddangos carden felen i Mel Clay ac Alisha Butchers.

Er hynny, fe lwyddodd Sioned Harries i groesi'r llinell am ail gais y tîm cartref, cyn i hithau hefyd dreulio 10 munud ar y fainc am beidio â rhyddhau'r bêl.

Fe gloriannodd canolwr yr Eidal, Michela Sillari, brynhawn campus i'r ymwelwyr wrth iddi sicrhau pwynt bonws, a'u buddugoliaeth gynta o'r bencampwriaeth.

Bydd Cymru yn cloi eu hymgyrch gyda gêm yn erbyn merched Ffrainc ym Mae Colwyn nos Wener, 16 Mawrth.