Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 38-14 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na ddau gais i George North wrth i Gymru guro'r Eidal mewn gêm agored yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd brynhawn Sul.
Cafodd Cymru y cychwyn perffaith, gyda Hadleigh Parkes yn croesi wedi pedwar munud yn unig a Gareth Anscombe yn trosi.
Daeth yr ail i Gymru, a'r cyntaf i North, ddwy funud yn ddiweddarach wrth i'r asgellwr orffen symudiad campus gan Owen Watkin a dorrodd drwy fwlch yn amddiffyn yr Eidal.
Fe drosodd Gareth Anscombe unwaith eto.
Tro'r Eidal oedd hi wedyn i sicrhau eu pwyntiau cyntaf o'r prynhawn wrth i Matteo Minozzi groesi yn y gornel, gyda Tomasso Allen yn trosi.
Cardiau melyn
Daeth triphwynt ychwanegol o droed Anscombe wedi cyfnod gwael o chwarae.
Ond yna roedd cerdyn melyn i Liam Williams am dacl uchel yn ôl y dyfarnwr fideo, funudau'n unig cyn hanner amser, gyda Chymru ar y blaen 17-7.
Wedi 43 munud ar y cloc trodd dau gais yn dri, wrth i'r clo Cory Hill groesi am ei gais rhyngwladol gyntaf, a Gareth Anscombe unwaith eto'n ychwanegu dau bwynt at y sgôr.
Daeth ail garden felen i Gymru wrth i Gareth Davies gael ei hel i'r gell gosb am daro'r bêl lawr yn fwriadol, gan adael Cymru gyda 13 dyn ar y cae.
Daeth y mewnwr Aled Davies, y maswr Rhys Patchell a'r bachwr Ken Owens ar y cae gyda 20 munud yn weddill, wrth i'r crysau cochion barhau i chwilio am y pwynt bonws fyddai'n eu codi i'r ail safle yn y bencampwriaeth.
Er i Hadley Parkes geisio tirio wrth ochr y pyst, roedd y cais yn annilys yn ôl y dyfarnwr teledu.
Gyda chwarter awr yn weddill o'r gêm, fe sîicrhaodd George North y pwynt bonws, gyda Leigh Halfpenny - oedd wedi dod ar y cae yn lle Liam Williams - yn ymestyn mantais Cymru i 26 o bwyntiau.
Ond doedd Cymru heb orffen, a daeth cais rhif pump gan Justin Tipuric, a frasgamodd ar hyd yr asgell yn y deg munud olaf.
Daeth cais gysur i'r Eidal diolch i Mattia Bellini wrth i Gymru golli meddiant, gyda Carlo Canna yn trosi.
Ond colli disgyblaeth wnaeth yr ymwelwyr yn fuan wedi hynny, ac fe fu'n rhaid i Tommaso Benvenuti dreulio gweddill y gêm yn y gell gosb.
Fe geisiodd North hawlio trydydd cais ond roedd y chwiban eisoes wedi ei chwythu gan y dyfarnwr, ac fe gafodd y ddau dîm eu galw nôl am sgrym ola', wrth i'r cloc droi'n goch wedi'r 80.
Wedi'r gêm, dywedodd y sylwebydd a chyn-gapten Cymru, Jonathan Davies, y bydd hi'n "orchwyl anodd i'r tîm hyfforddi i benderfynu pwy fydd yn y tîm i wynebu Ffrainc wythnos nesaf" yn dilyn sawl perfformiad "campus" gan chwaraewyr Cymru ar y cae ddydd Sul.