Caffi newydd yng Nghaerdydd yn cyflogi pobl ddigartref

  • Cyhoeddwyd
Tanya Smith yn paentio cadair
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tanya Smith, gwraig un o chwaraewyr Devils Caerdydd wedi bod ynghlwm â'r gwaith paratoi

Bydd caffi sy'n cyflogi pobl ddigartref ac yn rhoi'r elw i helpu eraill sy'n cysgu ar y stryd yn agor yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae gwirfoddolwyr a phobl fusnes wedi trawsnewid adeilad ar Stryd Frederick i gaffi Bigmoose.

Syniad Jeff Smith, un o gyn-chwaraewyr Devils Caerdydd oedd y fenter.

Sefydlodd Mr Smith yr elusen Bigmoose er cof am ei ffrind a'i gyd-chwaraewr Gary Cloonan, fu farw o ganser yn 2007.

Y caffi ar Stryd Frederick
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y caffi ar Stryd Frederick yn cyflogi pobl ddigartref

Dywedodd Mr Smith: "Mae'r blynyddoedd diweddaraf o gynnal elusen Bigmoose wedi bod yn rhyfeddol a dwi am barhau i wneud gwaith hwyliog sy'n annog pobl i fyw bywyd gwell, iachach a mwy caredig."

Mae Mr Smith a'i ferch Chloe wedi bod yn cynnig diodydd cynnes i bobl ddigartref ar strydoedd Caerdydd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Maen nhw hefyd wedi bod yn annog tai bwyta i roi bwyd, torwyr gwallt i dorri gwallt am ddim, a phobl i roi dillad cynnes a dillad gwely i bobl sy'n cysgu ar y stryd.

Yr adeilad cyn y gwaith i'w wella
Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen cryn dipyn o waith i wella'r adeilad

Dywedodd Mr Smith bod yr elusen Llamau wedi bod yn helpu i ddod o hyd i staff.

Ychwanegodd: "Y cynllun yw agor y caffi, ei redeg am rai misoedd ac yna hyfforddi person digartref i weini bwyd a diod.

"Wedi'r cwrs hyfforddiant mi fydd y person hwnnw yn cael bod yn rhan o dîm y siop goffi ac yn ennill cyflog go iawn.

"Byddwn wedyn yn ei gefnogi a'i fentora i geisio am swydd y mae'n dymuno ac yna fe fyddwn yn hyfforddi rhywun arall ac fe fydd y broses yn dechrau eto."