Cysgu mas yn y tywydd oer i osgoi defnyddwyr cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl ddigartref yng Nghaerdydd yn dweud eu bod wedi dewis cysgu allan, yn hytrach na mewn hostel, yn ystod tywydd oer Storm Emma er mwyn osgoi defnyddwyr cyffuriau.
Mae'r cyngor yn dweud bod 13 o bobl wedi dewis cysgu ar y stryd er gwaethaf pob ymdrech i'w perswadio i gysgu tu mewn.
Dywedodd llefarydd ar ran un hostel fod pobl weithiau yn cymryd cyffuriau yn yr adeilad ond nad yw y rhai sydd yng ngofal yr hostel yn goddef gweithred o'r fath.
Dywedodd y cyngor bod gweithwyr arbenigol wedi ymweld â'r 13 o bobol a wrthododd loches yn hwyr yn y nos a'u bod wedi darparu blancedi ffoil a sachau cysgu iddyn nhw ac hefyd wedi cadw golwg arnynt y bore canlynol.
Ychwanegodd llefarydd "nad oedd angen i neb gysgu ar y stryd yng Nghaerdydd" gan fod gan y brifddinas ddigon o adnoddau i'r digartref.
Mae gan Gyngor Caerdydd 216 lle mewn hostel, 54 gwely brys, 390 uned aros ac 86 lle ychwanegol yn ystod y gaeaf - mae aros yn un o'r rhain, medd y cyngor, yn llawer "mwy diogel" na chysgu tu allan.
Dywedodd Chris, sy'n 32 oed, ei fod e wedi bod yn cysgu am bedwar mis ar strydoedd Caerdydd ers gadael Merthyr Tudful - ei dref enedigol. Roedd e am ddianc rhag pobl y bu'n cymryd heroin gyda nhw.
Mae'n dweud ei fod bellach yn lân ers 10 mis - a dyna pam y dewisodd i beidio cysgu mewn hostel.
Ychwanegodd Chris: "[Mae'r hosteli] yn llawn o gyffuriau, weithiau mae 'na 30 neu 40 o bobl yno yn ceisio gwerthu pob math o gyffuriau i chi gan gynnwys faliwm, heroin a chanabis.
"Mae'r rhan fwyaf o'r bobl yno i werthu cyffuriau - rwy'n lân. Dwi ddim isie hynny.
"Hefyd mae 'na lot o ymladd yno - mae'r heddlu yno drwy'r amser."
Dywedodd Heddlu'r De bod "eu swyddogion yn cael eu galw am amryw resymau - mi allai fod yn ymholiadau cysylltiedig ag arestio neu sicrhau bod rhywun yn iawn... mae hosteli'r ddinas yn darparu lloches i bobol fregus - ac y mae rhai lletywyr gydag anghenion neu batrwm bywyd cymhleth - felly mae hynny i ddisgwyl".
Mae Troy o Drelái wedi bod yn cysgu ar y stryd am bron i flwyddyn. Yn ystod y storm fe benderfynodd e gysgu ar lawr hostel. "Doedd gen i ddim dewis," meddai.
Ychwanegodd Troy: "Mae yna bobl yno sy'n dwyn oddi arnoch tra bo chi'n cysgu. Mae modd aroglu'r cyffuriau filltir i ffwrdd.
"Weithiau mae chwech aelod o staff yn delio gyda 50 o bobl sydd ar gyffuriau."
Dywedodd un arall a oedd am aros yn ddienw ei fod e wedi cael ei wahardd o hostel wedi iddo gael ei ddal am 'smygu sbeis.
Yn ôl Richard Laydon, dirprwy brifweithredwr elusen Huggard, mae rhesymau'r digartref dros wrthod help yn gymhleth.
"Mae gennym lawer o bobl sy'n begera... ac yn aml maent yn gwneud hynny er mwyn ariannu arfer o gamddefnyddio sylwedd. Mae'r arfer hwnnw yn eu hatal rhag cysylltu â gwasanaethau."
Ychwanegodd Mr Laydon nad oedd Huggard yn archwilio pobl am gyffuriau.
Dywedodd: "Dwi'n siŵr fod pobl yn gwerthu cyffuriau o gwmpas yr adeilad ac mae gennym bolisi dim goddefgarwch tuag at hynny.
"Ry'n weithiau yn cael achos o drais ond mae mwy o drais i'w weld ar Ffordd y Santes Fair ar nos Sadwrn na sydd i'w weld yma."
Mae nifer o elusennau yn darparu amrywiaeth o lety i bobl ddigartref yng Nghaerdydd - yn eu plith Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, YMCA a Y Wallich.
'Nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi dyblu'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Pan mae unigolion bregus yn dewis mynd i lety, dyw eu hanghenion cymhleth ac weithiau eu hymddygiad heriol ddim yn cael eu adael ar ôl ar y strydoedd ac felly mae rhai hosteli yn gallu bod yn brysur ac yn swnllyd.
"Er hynny mae amrywiaeth o lety ar gael ac does dim rhaid i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fynd i hosteli mawr.
"Yn amlwg mae'n fwy diogel i unigolion beidio aros yn yr oerfel a gwneud defnydd o'r llety a'r bobl broffesiynol sydd ar gael i'w helpu."
Ym mis Rhagfyr dywedodd y cyngor bod nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas wedi dyblu mewn blwyddyn gan godi o 34 i 74.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2017