Capeli Caerdydd yn agor eu drysau i'r digartref
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o addoldai Caerdydd wedi dechrau agor eu drysau dros fisoedd y gaeaf er mwyn rhoi bwyd a llety i'r digartref.
Fel rhan o gynllun sy'n cael ei weithredu ers sawl blwyddyn bellach, bydd saith capel ac eglwys yn cymryd eu tro i fod yn gyfrifol am ddarparu bwyd a gwely i bobl sydd heb loches yn y brifddinas rhwng canol mis Rhagfyr a diwedd mis Mawrth.
Mae pryderon bod digartrefedd ar gynnydd, ac yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddodd Cyngor Caerdydd fod nifer y bobl sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas wedi dyblu o fewn y flwyddyn ddiwethaf o 34 i 74.
Mae'r awdurdod yn pwysleisio nad oes angen i bobl gysgu ar y stryd gan fod yna welyau ar eu cyfer.
Fe ddechreuodd cynllun yr addoldai tua saith mlynedd yn ôl dan arweiniad y Gweinidog Dave Pritchard, ac un o'r capeli sydd bellach yn rhan o'r trefniant yw Capel Cymraeg Salem yn Nhreganna.
"Dair blynedd yn ôl, roedden ni'n meddwl am ffyrdd o ehangu ein gwaith yn y gymuned," meddai'r gweinidog Evan Morgan.
"Fe aethon ni ati i ymchwilio a chlywed am y cynllun hwn, a bellach, bob nos Fawrth dros fisoedd y gaeaf ry' ni'n darparu bwyd a gwely i'r digartref.
"Ry' ni'n rhoi swper tri chwrs iddyn nhw, ac maen nhw'n cael cysgu yn y festri a chael brecwast y bore wedyn.
"Bwyd cartref da ry' ni'n wneud, dim byd rhy rich - rhywbeth fel beefcasserole a mash.
"Os ydych chi'n meddwl am y peth, dydy llawer ohonyn nhw ddim wedi cael dim byd i'w fwyta drwy'r dydd."
Fel rhan o'r cynllun, mae un capel yn gyfrifol am y gwasanaeth am noson bob wythnos. Nos Fawrth yw noson Salem.
Mae'r drysau'n agor am 19:00 ac mae'r drysau'n cau am y noson am 21:00.
"Mae rhai ohonyn nhw ag anghenion arbennig, eraill wedi cwympo mas â'u teuluoedd, a rhai yn ddigartref ar ôl colli swydd," meddai'r Parchedig Morgan.
'Gwerthfawrogol'
"Mae yna ddywediad yn does, bod yna berygl i unrhyw unigolyn sy'n colli tri mis o gyflog fynd yn ddigartref.
"Weithiau, mae rhai yn barod i ddweud eu stori nhw wrthon ni. Dydy eraill ddim, ac ry'ch chi'n parchu hynny.
"Ond beth bynnag eu cyflwr, welais i 'rioed neb mor werthfawrogol."
Daeth dros 200 o bobl ddigartref drwy ddrysau Salem dros dymor y gaeaf y llynedd, gyda rhwng 10 a 18 yn cael lloches bob wythnos.
"Mae'n rhaid i'r eglwysi i gyd fod yn agos i ganol y ddinas yn ddaearyddol, achos mae'n rhaid i bobl gerdded draw 'ma," meddai'r Parchedig Morgan.
"Ry ni'n lwcus fan hyn bod gyda ni'r cyfleusterau a bod digon o bobl yn fodlon rhoi o'u hamser i helpu i ni allu cynnig yr help yma.
"Mae'n rhaid dweud ei fod e'n brofiad humbling iawn - ry'ch chi'n gweld pobl sydd heb ddim byd, yn gwenu, yn siriol ac yn werthfawrogol."
Mae'r Parchedig Morgan yn dweud mai'r gobaith yw na fyddan nhw'n gweld yr un wynebau flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth i bobl lwyddo i ddod o hyd i lety parhaol ac ailadeiladu eu bywydau.
"Ar ôl y flwyddyn gynta' i ni gymryd rhan yn y cynllun, dyma ryw dri o bobl yn dod aton ni ar y noson agoriadol a dweud: 'Ydych chi'n ein cofio ni?'"
"Roedden nhw wedi dod i ddweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio fflatiau a'u bod nhw nôl ar eu traed.
"Roedden nhw jest eisiau dweud diolch."
Trefn yr wythnos:
Nos Lun - Eglwys y Bedyddwyr, Grangetown
Nos Fawrth - Capel Salem, Treganna
Nos Fercher - Eglwys y Santes Fair, Heol y Brenin, Treganna
Nos Iau - Eglwys Bedyddwyr Calfari, Treganna
Nos Wener - Neuadd Gymunedol San Pedr, Stryd Bedford, y Rhath
Nos Sadwrn - Sant Germans, Waunadda (Adamsdown)
Nos Sul - Eglwys Adfentydd y Seithfed Dydd, Heol Dwyrain y Bontfaen
(Drysau'n agor am 19:00, cadw gwelyau tan 20:30, drysau'n cau am 21:00)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2017