'Rhaid meithrin y berthynas ddiwylliannol â China'

  • Cyhoeddwyd
Ifor ap Glyn

Mae'n bwysig i Gymru fagu perthynas ddiwylliannol yn ogystal â masnachol gyda gwledydd fel China, yn ôl bardd cenedlaethol Cymru.

Yr wythnos hon mae Ifor ap Glyn yn rhan o ddirprwyaeth sydd wedi teithio i'r Dwyrain Pell i greu cysylltiadau newydd â gwlad fwyaf poblog y byd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, y ddirprwyaeth hon - sy'n cynnwys 25 o gwmnïau a sefydliadau o Gymru - yw'r mwyaf maen nhw wedi'i yrru i China mewn degawd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates y byddai'r ymweliad â Shanghai a Hong Kong yn gyfle i "gryfhau ymhellach ein cysylltiadau cryf".

'Dangos diddordeb'

Yn ystod yr ymweliad bydd Mr Skates yn cynnal derbyniadau Dydd Gŵyl Ddewi yn y ddwy ddinas, cyfarfod a buddsoddwyr posib a chymryd rhan mewn digwyddiad ar y diwydiant cynhyrchu.

Ond yn ôl Mr ap Glyn mae'n bwysig hefyd cofio pwysigrwydd y digwyddiadau diwylliannol, gan gynnwys perfformiad gan Opera Cenedlaethol Cymru.

"Mae dangos diddordeb yn niwylliant rhywun arall yn ffordd o fasnachu efo nhw," meddai'r bardd wrth BBC Cymru Fyw ar drothwy'r ymweliad.

"Dwi ddim eisiau bod yn or-sinigaidd wrth gwrs, ond mae'n rhaid meithrin perthynas ar lefel ddiwylliannol weithiau cyn gallu manteisio ar lefel masnachol."

Yn rhinwedd ei rôl fel bardd cenedlaethol fe fydd Mr ap Glyn yn cyfarfod â beirdd o China, ac mae eisoes wedi cyfansoddi cerdd sydd wedi ei chyfieithu i Fandarin fydd yn cael ei chyflwyno tra'i fod yno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ddirprwyaeth yn ymweld â dinas Shanghai yn ystod eu hymweliad

Dywedodd y bydd hefyd yn gyfle i drafod pwysigrwydd y Gymraeg ac amrywiaeth ieithyddol mewn gwlad sydd hefyd ag un iaith amlycaf, ond nifer o ieithoedd a thafodieithoedd eraill yn bodoli o fewn ei ffiniau.

"Mae'n enghraifft o'r soft diplomacy yna sydd yn gweithio'r ddwy ffordd fel petai," meddai Mr ap Glyn.

"Un peth 'dwi ar ddeall ydy bod diddordeb o'r newydd, eu bod nhw'n fwy agored i ddeall mwy am sut mae'r ddwy iaith [Cymraeg a Saesneg] yn cydfodoli.

"Mae 'na elfen bod 'na rywbeth i'w rannu yn fanno - wrth gwrs 'di o ddim cweit yr un peth, ac mae gan China dros 50 o ieithoedd neu dafodieithoedd.

"Ond tydi'r ffaith ein bod ni'n gwneud hynna ddim yn golygu ein bod ni'n tanseilio'r iaith ddominyddol. Mae modd i chi goleddu'r amrywiaeth yn eich gwlad chi heb danseilio'r drefn."

'Cyswllt person i berson'

Mae Sefydliad Confucius yn gorff sydd eisoes wedi'u lleoli mewn sawl ardal yng Nghymru ers sawl blwyddyn gyda'r nod o hyrwyddo iaith a diwylliant China i'r byd.

Ac yn ôl Krystyna Krajewska, cyfarwyddwr gweithredol y ganolfan ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, byddai'n llesol i Gymru geisio denu mwy o ymwelwyr o China fydd wedyn yn dychwelyd i'w gwlad nhw a "lledaenu'r neges".

Dywedodd y gall hynny ddigwydd mewn sawl ffordd, gan gynnwys cael mwy o fyfyrwyr o'r ddwy wlad i dreulio cyfnodau yn astudio dramor, a gwneud mwy i annog twristiaeth o'r Dwyrain Pell.

"Gyda llawer o fyfyrwyr... maen nhw'n graddio, falle yn sefydlu'u busnesau eu hunain, dwi'n meddwl bydd hynny'n allweddol iawn o ran adeiladu'r cysylltiadau busnes yna yn y dyfodol," meddai.

"Mae'r traffig dwy ffordd yna'n dechrau digwydd, mae'n dechrau gyda'r myfyrwyr yna'n dod draw, mae rhieni'n dod draw, 'dych chi'n mynd a nhw o gwmpas Cymru ac maen nhw'n darganfod cymaint o le prydferth yw e.

"Mae'r cyswllt person i berson yna mor bwysig o ran darparu seilwaith ar gyfer cydweithio pellach."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ken Skates bod China yn "un o economïau cryfaf y byd"

Ar ddechrau'r daith dywedodd Mr Skates y byddai'n defnyddio'r ymweliad i "ganmol rhinweddau Cymru fel partner masnach o'r radd flaenaf, cyrchfan rhagorol i dwristiaid, partner amrywiol ei ddiwylliant ac fel lle gwych i fyw, astudio a chynnal busnes ynddo ac i ymweld ag ef".

Ychwanegodd: "Gan fod allforion o Gymru wedi cynyddu'n sylweddol o bron £194m yn 2012 i bron £313m yn 2017, mae hon, heb os, yn farchnad wirioneddol arwyddocaol ac yn un sydd â llawer i'w gynnig i'n hallforwyr.

"Mae'n gyfnod heriol lle rydym i gyd yn ceisio manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd, a mynd i'r afael â heriau a chymhlethdodau Brexit.

"Nawr mwy nag erioed, mae'n bwysig i ni greu cysylltiadau â China a'n partneriaid rhyngwladol eraill er mwyn adeiladu economi sy'n gryfach ac yn decach i bawb."