Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol wedi gwrthdrawiad A470

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae dyn lleol wedi ei anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 ger Dolgellau yn oriau mân bore Sul.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y dyn yn cerdded pan gafodd ei daro ger Brithdir am tua 06:30, a bod y cerbyd wedi gyrru i ffwrdd heb stopio.

Cafodd y dyn 24 oed ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ble mae'n cael ei drin ar gyfer anafiadau difrifol, ond dim rhai sy'n peryglu'i fywyd.

"Rydyn ni'n apelio ar y gyrrwr i gysylltu gyda ni cyn gynted â phosib," meddai'r Sarjant Anja Macleod o'r Uned Blismona Ffyrdd.

"Hefyd dylai unrhyw un allai fod wedi gweld y dyn yn cerdded ar hyd yr A470 rywbryd rhwng 03:00 a 06:30, neu allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu gyda ni er mwyn helpu gyda'n hymchwiliad."