Trafod gosod isafbris ar alcohol i leihau lefelau yfed

  • Cyhoeddwyd
pris alcoholFfynhonnell y llun, Thinkstock

Bydd gosod isafbris ar alcohol yng Nghymru er mwyn lleihau lefelau yfed alcohol yn cael ei drafod ddydd Mawrth.

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y cynlluniau i benderfynu a ddylai'r mesur basio ei gyfnod deddfwriaethol cyntaf a fyddai'n golygu ystyriaeth fanwl gan bwyllgorau'r Cynulliad.

Bwriad y llywodraeth yw cyflwyno cyfraith newydd fyddai'n ei gwneud hi'n drosedd i werthu alcohol yn rhatach na 50c am bob uned.

Daw wrth i'r llywodraeth gyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £1m ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Pe bai'r isaf bris yn 50c yr uned, byddai potel o fodca yn costio o leiaf £20

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd cyllid camddefnyddio sylweddau i fyrddau iechyd yn cynyddu bron £1m - i dros £18m o 2018/19.

Dywedodd Mr Gething: "Mae'n broblem yng Nghymru bod alcohol rhad a chryf ar gael yn rhwydd, fel sy'n wir am lawer o wledydd eraill y gorllewin.

"Nid yw isafbris uned yn fwled arian, ond bydd yn offeryn pwysig newydd wrth inni fynd ati i leihau lefelau yfed alcohol.

"Drwy gyflwyno isafbris, fe allwn wneud gwahaniaeth - fel rydym wedi'i wneud drwy wahardd smygu, gan ddangos ein penderfyniad i greu dyfodol gwahanol i bobl Cymru."

Yn ôl ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru byddai gosod isafbris o 50c am uned o alcohol yn arbed tua 66 o farwolaethau'r flwyddyn.

Yn ôl y llywodraeth cafodd 54,000 o bobl driniaeth yn yr ysbyty oherwydd effeithiau alcohol yn 2016/15, gyda'r gost i'r gwasanaeth iechyd yn tua £200m.

Cafodd deddf sydd wedi gosod isafswm pris ar uned o alcohol yn Yr Alban ei basio yn 2012 a bydd yn cael ei weithredu yn ddiweddarach eleni.