Cyhuddo aelod staff Cynulliad UKIP o 'gysgu ar y swydd'
- Cyhoeddwyd
Mae prif aelod staff grŵp UKIP yn y Cynulliad wedi ei gyhuddo gan wraig arweinydd y blaid yng Nghymru o "gysgu ar y swydd".
Roedd enw Robin Hunter-Clarke wedi ymddangos ar lythyr yn galw am gymodi rhwng ACau UKIP a Mandy Jones.
Fe wnaeth Ms Jones adael grŵp UKIP ddyddiau wedi iddi olynu Nathan Gill fel AC Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr.
Mewn e-byst sydd wedi'u gweld gan BBC Cymru mae Christine Hamilton, cynorthwyydd personol ei gŵr Neil Hamilton AC, yn ceryddu Mr Hunter-Clarke am beidio ag ymbellhau ei hun o'r llythyr.
'Ble mae e?'
Mewn un e-bost mae Mrs Hamilton yn dweud: "Mae Neil yn dweud plîs wnei di ddrafftio e-bost cryf a'i anfon drwyddo iddo fe.
"Mae'n dweud ei fod e wedi gofyn i ti ddyddiau yn ôl i baratoi ymateb - ble mae e - doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am hyn nes i'r e-bost ddod gan Bridget. Wyt ti'n cysgu yn y swydd!"
Roedd Bridget Hall wedi ysgrifennu at Mr Hamilton cyn hynny ar ran Cadeiryddion Canghennau UKIP Cymru.
Yn y llythyr dywedodd: "Yn dilyn trafodaethau, cytunwyd y dylai llythyr gael ei sgwennu, yn gofyn yn garedig i'r ddau ohonoch edrych ar bob ffordd o gadw Mandy yn rhan o UKIP."
Mae Bridget Hall yn dweud fod drafft o'r llythyr wedi ei anfon i gadeiryddion y canghennau a bod "neb wedi gwrthwynebu ei anfon".
Dywedodd Robin Hunter-Clarke, pennaeth staff UKIP yn y Cynulliad, nad oedd y llythyr yn adlewyrchu ei farn ef.
Mewn ymateb i'r e-bost a anfonodd Mrs Hamilton ato, dywedodd Mr Hunter-Clarke: "Mae gan Gymru'r economi, system addysg a gwasanaeth iechyd gwanaf yn y DU, ond yn anffodus mae'r cyfryngau gwleidyddol Cymreig yn meddwl bod tynnu coes yn y swyddfa yn haeddu bod yn y penawdau."