AC newydd Mandy Jones 'ddim eisiau bod yng ngrŵp UKIP'

  • Cyhoeddwyd
mandy jonesFfynhonnell y llun, Twitter/Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mandy Jones wnaeth olynu Nathan Gill wedi ei ymddiswyddiad o'r Cynulliad

Mae'r AC newydd, Mandy Jones wedi dweud nad yw hi eisiau bod yng ngrŵp UKIP yn y Cynulliad, gan honni fod rhai aelodau wedi ei "bwlio".

Dywedodd grŵp UKIP yn y Cynulliad ddydd Llun na fyddan nhw'n gadael iddi ymuno â nhw, a hynny oherwydd y staff mae hi wedi dewis eu cyflogi.

Daeth cadarnhad fis Rhagfyr y byddai Mandy Jones yn cymryd lle Nathan Gill yn y Senedd, wedi iddo gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu.

Roedd Mr Gill wedi ei ethol dan faner UKIP yn 2016 cyn troi'n aelod annibynnol, gan olygu mai Ms Jones, oedd yn ail ar restr y blaid yn rhanbarth y gogledd, fyddai'n ei olynu.

Bu Mr Gill a'r arweinydd presennol Neil Hamilton yn ymgyrchu am arweinyddiaeth y grŵp yn dilyn ethol y saith AC UKIP gwreiddiol - pum aelod sydd gan y grŵp erbyn hyn.

'Hollol anghywir'

Dywedodd Ms Jones ei bod wedi cyflogi staff Nathan Gill oherwydd yr awydd i fwrw 'mlaen â'i gwaith yn syth, ond ei bod wedyn wedi mynychu cyfarfod pan roddodd aelodau eraill UKIP bwysau arni i gael eu gwared.

Yr unig berson o'r naw oedd yn y cyfarfod wnaeth ddim ei beirniadu, meddai, oedd Caroline Jones AC, ond ar ôl awr a hanner, dywedodd ei bod wedi cael ei hel allan gan Gareth Bennett AC i "wneud penderfyniad".

Gofynnodd am ddwy awr i gasglu ei meddyliau a dychwelyd i'w fflat, ac wedi i'r amser hynny fynd heibio, wnaeth hi ddim ateb ei ffôn i'r aelodau eraill, gan yn ei geiriau hi, "fod fy mhen i ar chwâl".

Ychwanegodd fod yr awyrgylch o fewn grŵp UKIP yn un "wenwynig" a'u bod wedi ei "bwlio" yn y cyfarfod.

hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil Hamilton yn gwadu honiadau ei fod wedi rhoi dwy awr i Ms Jones benderfynu os oedd am fod yn aelod UKIP

Gwrthododd Mr Hamilton honiadau ddydd Mercher bod Ms Jones wedi ei gorfodi i wneud penderfyniad o fewn dwy awr, i gael gwared â'i staff neu beidio ag eistedd fel aelod UKIP.

Dywedodd Mr Hamilton wrth raglen Good Morning Wales fod yr honiadau "yn hollol anghywir".

Ychwanegodd: "Hi roddodd ddwy awr i'w hun mewn gwirionedd. Cawsom gyfarfod grŵp ddydd Llun i drafod hyn, ac mi barodd awr a hanner.

"Am hanner awr wedi chwech, dywedodd hi, 'rhowch ddwy awr imi wneud fy meddwl i fyny'. Ni chlywsom unrhyw beth wedi hynny."

"Am naw o'r gloch y bore canlynol roedd Llywydd y Cynulliad eisiau gwybod beth oedd ei phenderfyniad hi, at ddibenion seddau yn y siambr."

Ychwanegodd Gareth Bennett AC: "Yn amlwg does ganddi ddim synnwyr gwleidyddol na synnwyr cyffredin."

Roedd UKIP wedi honni ddydd Mawrth fod Ms Jones wedi dewis cyflogi aelodau o bleidiau eraill, neu rai oedd wedi ymgyrchu yn erbyn y blaid yn ddiweddar.

Dywedodd Mr Hamilton: "Bu'r ddau weithiwr yn ymgyrchu yn erbyn UKIP mewn etholiadau, a dywedodd y ddau ohonynt bethau annymunol a sarhaus iawn amdanaf ac aelodau eraill yn y grŵp yn gyhoeddus.

"Rwy'n gobeithio'n fawr mai cytundebau dros dro sydd gan y gweithwyr yma, ac y bydd yr aelod yn gweld synnwyr."

Nathan Gill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nathan Gill yn parhau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd

Dywedodd un o aelodau staff Ms Jones, a chyn-gynorthwyydd Nathan Gill, Llŷr Powell, fod llawer o bobl yn gweithio i ACau o bleidiau nad ydynt yn weithgar ynddyn nhw.

Dywedodd ei fod wedi bod yn aelod o'r Ceidwadwyr "yn y gorffennol".

"Mae llawer o bobl yn UKIP wedi bod yn aelodau o bleidiau eraill," meddai.

Honnodd Mr Powell mai ffordd Mr Hamilton o ddial ar Mr Gill oedd y rheswm tu ôl i'r anghydfod diweddara: "Dyna'r unig reswm y gallaf ei weld."