Alun Wyn Jones yn arwyddo cytundeb deuol newydd

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae capten Cymru, Alun Wyn Jones, wedi arwyddo cytundeb deuol newydd gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.

Dyma'r trydydd tro iddo arwyddo cytundeb o'r fath.

Mae cytundebau o'r fath yn golygu bod Undeb Rygbi Cymru yn talu 60% o gyflog y chwaraewr, tra bod rhanbarth y chwaraewr yn talu'r 40% arall.

Does dim manylion hyd yn hyn am hyd ei gytundeb.

'Diolchgar'

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod yr undeb a'r Gweilch wedi "gweithio mewn cydweithrediad gydag Alun Wyn er mwyn llunio rhaglen unigryw fydd yn golygu y bydd modd rheoli ei les a'i lwyth gwaith".

Mewn datganiad dywedodd y chwaraewr, fydd yn ennill cap rhif 117 yn y gêm rhwng Cymru a Ffrainc ddydd Sadwrn, ei fod yn "ddiolchgar" i'r undeb a'i dîm.

"Mae'n siŵr na fydden ni wedi darogan y bydden i'n parhau gyda'r Gweilch ar ddechrau fy ngyrfa.

"Ond mae cael y cyfle i arwyddo cytundeb newydd... yn helpu gydag ansawdd a'r nifer o weithiau rwy'n chwarae rygbi, a gobeithio yn ymestyn fy nghyfleoedd i chwarae."