Llywodraeth Cymru i gasglu safbwynt plant ar broses Brexit
- Cyhoeddwyd
![Tywod](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1616/production/_100445650_p041l9d0.jpg)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod am ofyn i blant am eu safbwynt nhw ynglŷn â phroses y DU yn gadael yr UE.
Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am blant, Huw Irranca-Davies wedi dweud fod Brexit yn "un o'r newidiadau mwyaf yn eu bywydau fel oedolion".
Mae wedi addo gwneud "popeth y gallai" i sicrhau fod pryderon sy'n cael eu codi fel rhan o'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried.
Bydd yr ymgynghoriad yn digwydd drwy ysgolion a thrwy sefydliadau pobl ifanc, ond mae'r Ceidwadwyr yn beirniadu'r cam gan ddweud bod athrawon yn ddigon prysur heb orfod "egluro manylion cymhleth Brexit".
'Gwrando ar safbwyntiau'
Dywedodd Mr Irranca-Davies: "Fe wnaeth y rhan fwyaf o oedolion y DU wnaeth bleidleisio yn y refferendwm yn 2016 benderfyniad anferthol y dylai Prydain adael yr UE.
"Fel llywodraeth, rydym yn derbyn y penderfyniad, ac rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau fod Cymru a'r DU yn cael y cytundeb gorau posib.
"Ond, ein plant yw ein dyfodol, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar eu safbwyntiau a'u pryderon."
![Huw Irranca-Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D470/production/_100448345_huwirrancadavies2016.jpg)
Dywedodd Huw Irranca-Davies ei fod yn "edrych ymlaen" at glywed safbwyntiau plant
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi "arwain y ffordd i sicrhau fod hawliau plant yn cael eu parchu a'u cynnal", dan egwyddorion Confensiwn Hawliau Plant y Cenhedloedd Unedig.
"Fel rhan o hwnnw, rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cynnal hawliau plant i ddweud beth maen nhw'n feddwl pan mae oedolion yn gwneud penderfyniadau fydd yn effeithio arnyn nhw, a bod eu hopsiynau'n cael eu hystyried."
Bydd safbwyntiau plant saith i 11 oed yn cael eu casglu mewn ysgolion, gydag athrawon a staff cynorthwyol yn bresennol, yn ôl gweinidogion.
'Dyfodol'
Bydd rhwydwaith Cymru Ifanc yn cysylltu gyda phlant 11 oed a hŷn. Mae cynlluniau hefyd i holi 600 o blant a phobl ifanc mewn 25 o weithdai.
Mae disgwyl i adroddiad ar yr ymgynghoriad, sy'n cael ei gynhyrchu gan gorff Plant yng Nghymru, gael ei gwblhau yn y gwanwyn.
Dywedodd Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, Catriona Williams: "Mae ein cynllun "Cymru Ifanc" yn ceisio cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc i ddylanwadu ar y datblygiadau o ran polisïau Llywodraeth Cymru.
"Rydym yn gwybod o hynny eu bod nhw'n awyddus iawn i'w safbwyntiau cael eu clywed yn y cyfnod hanfodol yma mewn perthynas â thrafodaethau Brexit, gan fod eu dyfodol yn cael ei effeithio o ganlyniad."
![Darren Millar AC](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3CC5/production/_100475551_darrenmillarbbc.jpg)
Yn ôl yr AC Ceidwadol, Darren Millar, fe fyddai'n well i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar godi safonau mewn ysgolion
Mae'r cam wedi'i feirniadu'n hallt gan y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n dweud bod "athrawon yn ddigon prysur heb gael y gwaith ychwanegol o egluro manylion cymhleth Brexit, y trafodaethau gyda'r UE, a dyfalu'r effaith bosib ar blant a phobl ifanc".
Dywedodd eu llefarydd ar addysg a phlant, Darren Millar, ei bod yn "rhyfedd fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r fath raddau i holi pobl ifanc am eu barn, heb, mae'n ymddangos, wneud unrhyw ymdrech i ystyried safbwyntiau pobl hŷn.
"Gyda Chymru ar waelod tabl addysg y DU ac wedi'n canlyniadau TGAU gwaethaf mewn degawd, fe fyddai'n well i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar godi safonau yn ein hysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017