AC eisiau i Abertawe arloesi ym maes cerbydau di-yrrwr
- Cyhoeddwyd
Dylai Abertawe arwain y ffordd gyda thechnoleg newydd drwy ddefnyddio cerbydau di-yrrwr fel rhan o'i system drafnidiaeth gyhoeddus, medd un Aelod Cynulliad.
Mae 'na gynnig i greu metro rhanbarthol gwerth £1bn yn y rhanbarth, ac mae astudiaeth i ddechrau fis Ebrill ar ddichonoldeb y cynlluniau.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Llafur, Lee Waters y byddai Abertawe flynyddoedd y tu ôl i ddinasoedd eraill petai tramiau a threnau traddodiadol yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r posiblrwydd o ddefnyddio'r dechnoleg newydd yn cael ei ystyried.
Tra'n siarad ar raglen Sunday Politics ddydd Sul, dywedodd aelod Llanelli y byddai Abertawe tua 30 mlynedd y tu ôl i ddinasoedd fel Manceinion a Sheffield petai system metro draddodiadol yn cael ei chyflwyno.
Mae e o'r farn y dylai Bae Abertawe gymryd camau breisio ymlaen drwy brofi'r dechnoleg newydd, gydag apiau'n cael eu defnyddio yn lle amserlenni.
Dywedodd Mr Waters y gallai cerbydau heb yrrwr fynd â phobl o'u cartrefi i'w cyrchfannau, yn hytrach na theithwyr yn gorfod dibynnu ar fysiau a thramiau.
"Yr allwedd i gael pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'u ceir eu hunain yw i gael system drafnidiaeth gyhoeddus fel sy'n digwydd yn Llundain, lle nad oes angen i chi aros yn hir cyn i wasanaeth gyrraedd, ac yn amlwg nid dyna'r achos yng Nghymru," meddai.
Dywedodd fod ardaloedd yn Llanelli lle nad oes bws ar ol 16:00, ac nad oedd yr ardal yn gallu dibynnu ar y rhwydwaith trennau.
Ychwanegodd y gallai metro Bae Abertawe gael ei ddefnyddio er mwyn profi'r dechnoleg di-yrrwr i weddill Cymru.
"Rydym yn dechrau gyda llechen lân, beth am fynd yn syth at y datrysiad yn hytrach na cheisio cadw'i fyny (gyda'r gweddill)?"
Y llynedd, dywedodd yr Ysgrifennydd Economi Ken Skates wrth BBC Cymru y gallai ceir di-yrrwr gael eu profi ar ffyrdd Cymru.
Mae gweinidogion Llywodraeth Prydain yn dweud y gallai ceir o'r fath fod ar ffyrdd y DU erbyn 2021 ac y gallai'r sector fod gwerth £52bn i Brydain erbyn 2035.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai gwaith cynnar ar fetro Bae Abertawe ystyried popeth y gall technoleg newydd ei gyfrannu at systemau trafnidiaeth rhanbarthol.
"Dyma pam ry ni'n buddsoddi £100m ym mharc technoleg "Cymoeth Technoleg", er mwyn sicrhau fod cymunedau a busnesau Cymru yn y sefyllfa gorau posib i elwa o arloesedd modurol
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2017