Dim digon o herio 'gor-ragnodi' moddion yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
MEddyg
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd o 46% wedi bod yn y 10 mlynedd diwethaf o eitemau sy'n cael eu rhagnodi yng Nghymru

Does dim digon yn cael ei wneud i herio'r broblem o "or-ragnodi" meddyginiaeth yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Roedd ACau yn pryderu fod cynnydd o 46% wedi bod mewn eitemau yn cael ei rhagnodi dros y 10 mlynedd diwethaf gan ofalwyr sylfaenol fel meddygon teulu.

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd y gallai fod cymaint â hanner y cleifion sy'n yn cael eu cymryd fewn i ysbytai fod yno oherwydd eu bod yn cymryd y cyffuriau neu ddosau anghywir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod disgwyl i bob meddyg sicrhau fod meddyginiaeth yn cael ei "rhagnodi a'i ddosbarthu yn gyfrifol."

'Gofyn cynyddol'

Mae'r pwyllgor wedi dweud fod yna ofyn cynyddol am gyffuriau sydd wedi'i rhagnodi, sydd ar gael am ddim i gleifion yng Nghymru ers 2007.

Mae hefyd pryder ymysg y pwyllgor fod 46% o gynnydd yn yr eitemau sy'n cael ei rhagnodi gan feddygon teulu a gofalwyr sylfaenol eraill dros y 10 mlynedd diwethaf, sy'n costio £800m y flwyddyn.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Nick Ramsey: "Mae'r defnydd o reoli moddion yn un sy'n berthnasol i bawb, o feddygon teulu, i staff meddygol mewn ysbytai, fferyllwyr a chleifion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyffuriau sydd wedi'i rhagnodi ar gael am ddim i gleifion yng Nghymru ers 2007.

"Mae gennym i gyd gyfrifoldeb i sicrhau nad yw moddion yn cael eu gwastraffu neu ddosbarthu'n ddiangen.

"Beth yr ydym wedi'i ddarganfod yn ystod yr ymchwiliad yw system sydd angen newid a system sydd ddim yn gallu cyflawni i'w lawn potensial."

Mae argymhellion y pwyllgor yn cynnwys galwad i fyrddau iechyd i ddatblygu ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o reoli moddion, ac i wneud mwy o ddefnydd o fferyllwyr i gynghori cleifion am eu anghenion meddygol o ran cyffuriau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad ac rydym yn bwriadu cymryd amser i ystyried yr argymhellion.

"Rydym yn disgwyl i weithiwyr iechyd proffesiynol sicrhau fod moddion yn cael eu rhagnodi a'i dosbarthu'n gyfrifol, er mwyn sicrhau gofal y cleifion ac i leihau'r gwastraff.