Peiriannydd wedi marw mewn damwain awyren yn Y Fali
- Cyhoeddwyd
Mae'r Awyrlu wedi cadarnhau fod peiriannydd o'r Red Arrows wedi marw ar ôl i awyren Hawk blymio i'r ddaear yn Y Fali ar Ynys Môn.
Dywedodd pennaeth gorsaf Y Fali, y Capten Nick Tucker-Lowe, fod peilot yr awyren wedi goroesi ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty.
Mewn datganiad, cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru mai dau ddyn oedd yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Fali am tua 13:30 ddydd Mawrth.
Wrth ddarllen y datganiad, dywedodd y Capten Nick Tucker-Lowe bod y digwyddiad yn "ddamwain drasig".
"Mae teulu'r dyn a fu farw wedi gofyn am oedi am 24 awr cyn i fwy o fanylion gael ei ryddhau," meddai.
"Mae peilot yr awyren wedi goroesi ac mae o yn derbyn triniaeth feddygol ar hyn o bryd."
'Cydymdeimlo'n ddwys'
Mewn datganiad, dywedodd Prif Farsial yr Awyrlu, Syr Stephen Hillier: "Mae'r ddamwain drasig yma'n ein hatgoffa na ddylwn ni fyth gymryd yn ganiataol y risgiau y mae pobl yn eu cymryd wrth wasanaethu ein gwlad.
"Rydw i'n cydymdeimlo'n ddwys gyda ffrindiau a theulu'r rhai gafodd eu heffeithio yn y cyfnod ofnadwy yma."
Ychwanegodd datganiad Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n cydweithio ag ymchwiliad i'r digwyddiad, gan apelio ar unrhyw un welodd yr awyren brynhawn Mawrth i gysylltu gyda nhw drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn datganiad: "Fe gawson ni alwad ychydig cyn 13:30 ddydd Mawrth gydag adroddiadau bod awyren wedi dod i lawr ger canolfan RAF Fali ger Caergybi."
Mae awyrennau'r Red Arrows yn ymweld â gogledd Cymru yn aml i ymarfer.
Dywedodd llygad dyst - Roy Jones o gwlb golff Ynys Môn, sy'n agos i ganolfan yr awyrlu - ei fod o ac aelodau eraill o'r clwb wedi clywed sŵn uchel a gweld "mwg du yn codi", cyn i gerbydau'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Ychwanegodd ei fod wedi gweld awyren yn hedfan gerllaw yn gynharach.
Dywedodd tystion eraill eu bod wedi gweld o leiaf un yn dianc gyda pharasiwt cyn i'r awyren daro'r llawr.
Mae cwmni Flybe, sy'n gyfrifol am yr hediadau rhwng Y Fali a Chaerdydd, wedi cadarnhau y bydd teithwyr yn cael eu cludo ar fysiau i hedfan o Gaer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018