Canfod gweddillion corff dynes mewn tŷ yn Aberaeron
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod corff dynes wedi ei ddarganfod mewn tŷ yng Ngheredigion.
Fe gafodd swyddogion o Heddlu Dyfed Powys eu hysbysu fod pryderon am les dynes oedrannus a'i merch yn gynharach yn y mis.
Cafodd y ferch ei chanfod gan y gwasanaethau brys wedi llewygu yn ei chartref ar gyrion Aberaeron.
Yn dilyn archwiliad pellach o'r tŷ, fe gafodd gweddillion corff eu darganfod.
Fe gafodd y ddwy eu henwi'n lleol fel Gaynor Jones, oedd yn ei 80au cynnar, a Valerie, sy'n ei 50au hwyr.
Mae pobl leol wedi disgrifio'r tŷ fel un "gorlawn".
Cafodd sgipiau eu gosod y tu allan i'r eiddo wrth i heddweision dynnu llawer o eitemau o'r tŷ, ac fe gafodd pabell fforensig ei chodi y tu allan.
Dywedodd cymdogion bod y ddwy yn cadw at eu hunain, a'u bod yn deall bod Valerie wedi bod yn wael yn ddiweddar.
Ar hyn o bryd, mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad, ac mae'r crwner wedi cael ei hysbysu o'r datblygiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018