Aberaeron: Ymchwiliad wedi pryder am les dwy ddynes

  • Cyhoeddwyd
Aberaeron
Disgrifiad o’r llun,

Mae pabell fforensig wedi'i godi y tu allan i'r tŷ

Mae ymgyrch heddlu yn parhau yng Ngheredigion wedi i bryderon gael eu codi am les dynes oedrannus a'i merch yn gynharach yn yr wythnos.

Cafodd y ferch ei chanfod gan y gwasanaethau brys wedi llewygu yn ei chartref ar gyrion Aberaeron, ac mae hi'n parhau yn yr ysbyty.

Dyw'r heddlu ddim yn gallu dod o hyd i'r fam, ac maen nhw'n ei drin fel achos o berson ar goll.

Mae ymchwiliad yr heddlu wedi bod yn parhau trwy'r wythnos.

Tŷ 'gorlawn'

Mae'r ddwy wedi cael eu henwi'n lleol fel Gaynor Jones, sydd yn ei 80au cynnar, a Valerie, sy'n ei 50au hwyr.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i chwilio'r tŷ, sydd wedi'i ddisgrifio gan bobl leol fel un "gorlawn".

Mae sgipiau wedi eu gosod y tu allan wrth i heddweision dynnu llawer o eitiemau o'r tŷ, ac mae pabell fforensig wedi'i godi y tu allan.

Dywedodd cymdogion bod y pâr yn cadw at eu hunain, a'u bod yn deall bod Valerie wedi bod yn wael.

Ychwanegon nhw nad oedden nhw wedi gweld Gaynor ers rhai misoedd.

'Dynes ar goll '

Dywedodd llefarydd o Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi "derbyn galwad ddydd Llun yn gysylltiedig â lles dwy ddynes o Aberaeron".

"Mae'r heddlu yn gwneud ymholiadau i ddod o hyd i un ddynes sydd ar goll mewn cysylltiad â'r alwad," meddai.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi gyrru ambiwlans i'r safle ddydd Llun, gan gadarnhau bod un ddynes wedi'i chludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.