Galw am bresgripsiwn celfyddydol i drin salwch
- Cyhoeddwyd

Dwedodd Phil George y byddai Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyfrannu at ariannu swyddi celf ac iechyd llawn amser i gysylltu artistiaid a meddygon
Dylai dosbarthiadau dawns a gwersi celf fod ar gael ar bresgripsiwn a dylai byrddau iechyd helpu i'w hariannu, yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC).
Mae astudiaeth o fanteision y celfyddydau i bobl sy'n sâl wedi argymell ffurfioli defnydd byrddau iechyd o'r celfyddydau.
Dywedodd CCC fod angen tystiolaeth bellach, ond bod manteision iechyd y celfyddydau eisoes wedi eu cadarnhau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried yr argymhellion.
Lleihau straen ar y GIG?
Yn ôl cadeirydd CCC, Phil George, gall defnyddio rhywfaint o gyllid iechyd leihau'r straen ar y GIG yn y tymor hir.
"Rwy'n deall y pwynt ynghylch pa mor dynn mae'r cyllidebau iechyd, a dyna pam rwy'n gwneud y pwynt bod tystiolaeth ddifrifol nawr yn bodoli sy'n dangos bod modd gostwng gwariant ar rai afiechydon trwy gyflwyno prosiectau celf ac iechyd," meddai.

Bwriad y dosbarth dawnsio yw osgoi damweiniau lle mae pobl yn cwympo
Dywedodd bod modd i'r prosiectau leihau nifer y bobl hŷn sy'n gorfod dychwelyd i'r ysbyty, a lleihau'r nifer o gyffuriau gwrth-iselder sy'n cael eu dosbarthu.
Ond ychwanegodd bod angen cryfhau'r tystiolaeth a chydweithio gyda meddygon i wella safon cyffredinol yr hyn sy'n cael ei gynnig yn y maes celfyddydau.
'Presgripsiwn cymdeithasol'
Mae adroddiad gan y Cyngor Celfyddydau yn tynnu sylw at waith mewn sawl maes gan gynnwys trin dementia, clefyd Parkinson, adferiad wedi strôc, problemau iechyd meddwl, a phryder ac unigedd.
Roedd yr adroddiad yn nodi 11 o argymhellion gan gynnwys:
Gwneud y celfyddydau'n rhan o'r "presgripsiwn cymdeithasol", lle mae cleifion yn cael eu cyfeirio at ystod o wasanaethau;
Cyflogi cydlynwyr llawn amser i'r saith bwrdd iechyd i ganolbwyntio ar y celfyddydau ac iechyd;
Buddsoddi mewn ymchwil a thystiolaeth i annog gwell cysylltiadau rhwng partneriaid ymchwil, artistiaid a chlinigwyr.
Dywedodd Phil George y byddai CCC yn cyfrannu at ariannu swyddi cydlynwyr celf ac iechyd llawn amser, i gysylltu artistiaid a meddygon.
Lle mae'r rôl yn bodoli ar hyn o bryd, mae'r staff yn rhan amser neu'n cyflawni'r rôl ochr yn ochr â dyletswyddau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn ystyried argymhellion yr adroddiad.